Radio Beca: Gohirio darlledu tan Fedi 2015?

  • Cyhoeddwyd
Radio beca

Mae gorsaf radio gymunedol yng ngorllewin Cymru yn bwriadu dechrau darlledu ym mis Medi 2015, dros flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl.

Cafodd Radio Beca drwydded ddarlledu gan y rheoleiddiwr Ofcom yn 2012, gyda'r bwriad y byddai'r orsaf yn dechrau darlledu ym mis Ebrill 2014.

Mae Ofcom eisoes wedi cytuno i roi dau estyniad i Radio Beca, y diweddaraf ym mis Medi eleni.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Ofcom bod yr ail estyniad ond wedi ei roi gydag amodau penodol y bydd rhaid i Radio Beca eu profi i'r Pwyllgor Trwyddedau, yn cynnwys sicrhau ffynonellau ariannol newydd.

'Llacio canllawiau'

Bwriad yr orsaf newydd yw rhoi pwyslais ar ddarlledu yn y Gymraeg yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion a gogledd Penfro, gan ddarlledu yn y ddwy iaith, gyda'r Gymraeg ar yr oriau brig.

Er mwyn cael ail estyniad ar y drwydded, dywedodd Ofcom y byddai'n rhaid i Radio Beca "ddangos cynllun busnes sy'n cynnwys ffynhonnell ariannol ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr orsaf yn gynaliadwy".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fenter drwydded ddarlledu gan ofcom yn 2012 yn wreiddiol

"Rydym eisoes wedi llacio ein canllawiau arferol o ran bod y drwydded yn anelu at gynulleidfa arbennig," meddai llefarydd.

"Mae'r broses o gynnal gorsaf radio yn broses ddrud ofnadwy, mae costau darlledu yn ddrud.

"Fel rheol mae gorsafoedd o'r fath yn gwasanaethu un ardal darlledu, ond mae Radio Beca am wasanaethu tair ardal, ac felly mae'r costau yn ddrytach, mae'r costau gymaint yn uwch."

Fel rhan o amodau cytundeb Radio Beca, bydd rhaid iddyn nhw ddechrau darlledu yn ardaloedd sir Gaerfyrddin, Ceredigion a gogledd Penfro ar yr un pryd, yn hytrach na dechrau mewn un ardal ac ymestyn y gwasanaeth yn raddol.

'Cynllun anarferol'

Dywed y rhai sydd tu ôl i Radio Beca eu bod yn parhau yn ffyddiog, a bod disgwyl i'r pwyllgor sefydlodd y fenter wreiddiol drosglwyddo'r awenau i grŵp cydweithredol o fewn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Euros Lewis eu bod "wedi gorfod ad-drefnu ein hamserlen er mwyn symud ymlaen".

"Ond mae hwn yn gynllun anarferol, does dim byd arall tebyg," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o orsafoedd cymunedol yn gwasanaethu ardal maint 15 cilometr, rydym ni'n sôn am ardal sy'n un rhan o dair o dirwedd Cymru.

"Mae tri phrif drosglwyddydd, yng Ngharmel ger Cross Hands, Blaenplwyf a Phreseli, mae yna lot o waith technegol a does dim celu fod o'n waith drud, does dim cymhariaeth â gwasanaeth cymunedol arferol."

Darlledu erbyn Medi 2015?

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Radio Beca yn darlledu yn Gymraeg a Saesneg, gyda'r pwyslais ar yr iaith Gymraeg

Ychwanegodd ei fod o'n ffyddiog o sicrhau y bydd y gwasanaeth yn llwyddiant o ran meithrin talentau a bod yn gynaliadwy.

"Y nod yw sefydlu o fewn y gymuned," meddai.

"Mae yna gamau 'mlaen wedi bod, rydym ar fin sefydlu grŵp cydweithredol ac rydym wedi sicrhau statws elusennol.

"Rydym am fod yn flaengar, dyw e ddim yn fater o ddod o hyd i grant, mae'n rhaid i'r gwasanaeth sefyll ar ei draed ei hun."

Dywedodd ei fod o'n obeithiol y bydd yr orsaf yn darlledu erbyn Medi 2015.

Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd yn rhaid i'r orsaf wneud cais arall am ymestyn y drwydded a hynny fis Ionawr neu ddechrau Chwefror 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol