Gwlad Belg 0-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru'n dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru'n dathlu'r pwynt gwerthfawr

Mae Cymru'n dal heb golli yn Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn gwlad Belg ym Mrwsel.

Dechreuodd Cymru gydag 11 ymosodol, ac am yr 20 munud cyntaf roedd hi'n weddol gyfartal.

Daeth hanner cyfle i Aaron Ramsey yn y cwrt cosbi, ond yr unig ergyd at y gôl i Gymru oedd cic rydd Gareth Bale, a gafodd ei harbed gan Thibaut Courtois.

Ond wedyn fe ddechreuodd Gwlad Belg reoli'r meddiant a chreu sawl cyfle, ond roedd amddiffyn Cymru a'r golwr Wayne Hennessey ar eu gorau wrth gadw'r llen coch allan.

Daeth George Williams i'r maes ar yr egwyl yn lle David Cotterill gan ddod ag awch ymosodol i chwarae Cymru am gyfnod arall, ac fe ddaeth cyfle arall o gic rydd, ond unwaith eto roedd Courtois yn y lle iawn i arbed ergyd rymus Bale.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Christian Benteke gafodd y cyfle gorau i Wlad Belg

Tua'r diwedd, fe gafwyd llawer mwy o ymosod gan y Belgiaid, ond roedd Hennessey a'i amddiffyn yn gampus, gyda James Chester yn enwedig yn ardderchog.

Oherwydd anaf difrifol i Dries Mertens fe gafodd bron wyth munud ei ychwanegu i'r 90 munud gan y dyfarnwr, ond fe arhosodd Cymru yn gadarn.

Daeth y cyfle gore yn y funud olaf un bron wrth i beniad Christian Benteke gael ei glirio oddi ar y llinell gan Gareth Bale o bawb, gyda Joe Allen - oedd hefyd yn wych - yn clirio wedyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod gan Gymru 8 pwynt o'u pedair gêm hyd yma. Mae Gwlad Belg bellach yn bedwerydd gyda phum pwynt ond un gêm wrth gefn gan i Gyprus guro Andorra o 5-0 yn y gêm arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Gareth Bale dwy gic rydd yn cael eu harbed