Galw am drafod diswyddiadau dadleuol Castell Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau am gyfarfod cyhoeddus yn Aberteifi i drafod penderfyniad dadleuol i roi rhybudd diswyddo i bum aelod o staff sydd yn gweithio yng Nghastell Aberteifi.
Mae'r Castell Canol Oesol, sydd yn dyddio o gyfnod yr Arglwydd Rhys, yn cael ei ail-wneud ar gost o £12 miliwn gyda llety gwyliau'n cael ei ychwanegu, yn sgil buddsoddiad sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cronfeydd Ewropeaidd a nifer o ffynonellau eraill.
Yn ôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan, Jann Tucker, sydd yn gyfrifol am y cynlluniau, fe wnaed y penderfyniad i "ailstrwythuro" ym mis Hydref wrth i'r prosiect "symud i gyfnod newydd gweithredol" pan fydd y Castell yn agor yn y Gwanwyn.
Mae rhai o bobl Aberteifi yn dweud nad ydynt wedi cael digon o wybodaeth am y penderfyniad, a'u bod yn annog yr ymddiriedolaeth i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda phobl leol.
'Sibrydion'
Mae Delyth Wyn yn byw yn y dref, ac mae hi'n teimlo bod yna ddirgelwch ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd:
"Mae cyn lleied o wybodaeth am beth sydd yn digwydd tu fewn y castell i ni ddim yn gwybod.
"Mae yna gymaint o sibrydion, teimlo ydw i os allwn ni os gwelwch yn dda gael cyfarfod cyhoeddus fel bod cwestiynau'n cael eu hateb."
Mae ei mam yn ymddiriedolwr a'i chwaer yn gweithio ar gynllun y Castell. Mae Delyth Wyn yn dweud fod yna amheuon a fydd digon o staff i gynnal y cynllun:
"Yn wreiddiol ro' ni wedi deall bod 12 o swyddi parhaol. Dwi'n deall eu bod yn torri'r staff o 5 neu 4, dwi ddim yn teimlo bod digon o bobl yn mynd i fod yn gweithio yno."
'Sioc'
Fe fydd Cyfarfod Blynyddol Ymddiriedolaeth Cadwgan yn cael ei gynnal nos Fercher. Mae un hanesydd lleol yn bwriadu ceisio cael ei ethol yn ymddiriedolwr yn y cyfarfod, er mwyn sicrhau fod hanes a threftadaeth y safle yn cael y lle priodol pan fydd y Castell yn agor yn swyddogol yn 2015.
Yn ôl Glen Johnson, sydd wedi bod yn dilyn hynt a helynt y Castell ers 30 mlynedd, roedd y datganiad gan yr ymddiriedolwyr ym mis Hydref yn syndod.
"Clywais ddim byd cyn fy mod yn ei weld yn y papurau fod y staff yn mynd," meddai.
"Roedd y newyddion yn sioc...dydy pobl ddim yn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen a nawr yw'r amser i gael cyfarfod cyhoeddus.
"Mae'r arian sy'n dod mewn o'r bwyty a'r tai gwyliau yn bwysig ond y rheswm bod pobl yn dod i'r castell yw'r hanes, felly mae'n bwysig nawr i fasnachu'r safle fel lle hanesyddol iawn."
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan, Jann Tucker taw'r "cyrff ariannu oedd wedi gofyn am newidiadau i'r strwythur staffio".
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Ymddiriedolaeth Cadwgan ei bod "wedi rhannu cynlluniau â'r gymuned leol trwy gyfrwng sawl proses ymgynghori".
"Mae hanes a threftadaeth y safle unigryw hwn wrth galon y prosiect a ry'n ni wrth ein bodd i fedru agor yn y gwanwyn, a'r gobaith yw denu miloedd o ymwelwyr ychwanegol i Aberteifi bob blwyddyn, er lles busnesau a'r ardal yn gyffredinol."
Bydd mwy am y stori ar Newyddion 9 ar S4C, am 21:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012