Cynllun i ailddatblygu canol dinas Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Canol dinas Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Pe bai'r cyngor yn cymeradwyo'r cynllun, byddai angen cael hyd i ddatblygwyr i ymgymryd â'r prosiect, gyda'r bwriad o gychwyn ar y gwaith yn 2016.

Gallai cynllun i ailddatblygu canol dinas Abertawe olygu bod "ardal fusnes" yn cael ei hadeiladu, ynghyd â chanolfan siopa, canolfan hamdden, swyddfeydd a thai.

Fel rhan o'r cynllun byddai llawer o'r adeiladau presennol ar Ffordd y Brenin yn cael eu dymchwel.

Yn ogystal byddai'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei gwerthu er mwyn ariannu'r cynllun.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Gyngor Abertawe ei gymeradwyo ar 20 Ionawr.

Pe bai'r cyngor yn cymeradwyo'r cynllun, byddai angen cael hyd i ddatblygwyr i ymgymryd â'r prosiect, gyda'r bwriad o gychwyn ar y gwaith yn 2016.

'Blas o Abertawe'

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wrth y South Wales Evening Post mai'r bwriad oedd adeiladu rhywbeth fyddai'n rhoi "blas o Abertawe", yn hytrach na dim ond efelychu datblygiadau mewn dinasoedd eraill.

Dywedodd: "Mae adfywio canol y ddinas yn flaenoriaeth, nid yn unig i'r cyngor, ond i bobl Abertawe hefyd.

"Byddai datblygu canol dinas Abertawe o fudd, nid yn unig i drigolion a busnesau Abertawe, ond hefyd i bobl ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

"Tydan ni ddim am geisio efelychu neu gopio rhywle arall, ond rydan ni eisiau dysgu o lwyddiannau datblygiadau eraill.

"Mae angen i ganol ein dinas fod yn unigryw gan gadw hunaniaeth a chymeriad arbennig Abertawe, nad oes modd ei gael yn unrhyw le arall."