Radio Beca: Dyfodol ansicr?
- Cyhoeddwyd
Mae yna farc cwestiwn ynglŷn â gobeithion grŵp cydweithredol i sefydlu radio cymunedol yn y gorllewin gan ddechrau darlledu fis Medi nesaf.
Mae Cymru Fyw yn deall nad yw Radio Beca wedi llwyddo i gydfynd â thri maen prawf gafodd eu gosod gan Ofcom er mwyn sicrhau estyniad pellach i'w trwydded ddarlledu o fis Chwefror eleni.
Ond yn ôl Radio Beca, mae nhw'n ffyddiog y bydd Ofcom, y corff sy'n rheoleiddio darlledu, yn caniatau iddynt barhau a'u cynlluniau.
Fe wnaeth y grŵp sicrhau trwydded ddarlledu yn 2012, ac roedd disgwyl iddynt ddechrau yn Ebrill 2014.
Yna fe roddodd Ofcom estyniad tan Medi 2014, ac yna estyniad pellach tan Chwefror eleni.
Nod Radio Beca yw darlledu yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion, gyda'r Gymraeg ar yr oriau brig.
Dywed Ofcom eu bod wedi caniatáu'r estyniad tan Chwefror, gan ddisgwyl i'r grŵp gwblhau'r tri maen prawf canlynol:
Cais i'r Loteri Fawr;
Cais llwyddiannus i gronfa Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol, dolen allanol;
Penderfynu ar leoliad pencadlys.
Mae Cymru Fyw yn deall fod problemau gyda'r ail garreg filltir, ac er bod cais wedi ei wneud i'r gronfa dan sylw, dyw'r cais heb ei gymeradwyo.
Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru nod y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol yw "darparu cyllid, pan fetha popeth arall, i sefydliadau sydd am ddarparu neu wella cyfleusterau cymunedol."
Pe bai Radio Beca yn methu a chyrraedd y tair carreg filltir yna mae'n fater i Bwyllgor Darlledu Ofcom beth fydd yn digwydd, i ganiatáu estyniad pellach neu beidio.
Ystyriaethau ieithyddol
Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom eu bod eisoes wedi "llacio'r rheolau" er mwyn ceisio sicrhau fod Radio Beca yn llwyddo.
Ddiwedd y llynedd dywedodd Radio Beca eu bod nhw'n gobeithio cael estyniad tan Fedi 2015.
Mae Ofcom yn cydnabod bod cais Radio Beca yn wahanol i'r arfer a bod yna ystyriaethau ieithyddol.
Bydd costau'r fenter yn y gorllewin yn uwch na gwasanaethau cymunedol arferol oherwydd y bydd tri throsglwyddydd, yng Ngharmel ger Cross Hands, Blaenplwyf a Phreseli.
Fel rheol mae gorsafoedd cymunedol yn gwasanaethu ardal maint 15 cilometr.
Dywedodd Euros Lewis, un o'r rhai tu cefn i Radio Beca eu bod nhw'n parhau'n ffyddiog y bydd Ofcom yn caniatáu iddynt ddarlledu ym mis Medi, ac nad oedd ef o'r farn bod yn rhaid cael estyniad arall ym mis Chwefror eleni.
Mewn ymateb dywedodd Ofcom er bod cais am estyniad o 12 mis wedi ei dderbyn ym mis Medi 2014, dim ond estyniad o chwech mis gafodd ei gytuno, a hynny gydag amodau ynghlwm iddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd28 Mai 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012