Joanne Mjadzelics yn ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Joanne MjadzelicsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joanne Mjadzelics yn honni ei bod yn ceisio dal Watkins

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Joanne Mjadzelics wedi ei chanfod yn ddieuog o annog y pidoffeil Ian Watkins i ddosbarthu delweddau anweddus o blant.

Roedd hi wedi pledio'n ddieuog i saith cyhuddiad yn ymwneud â delweddau anweddus.

Dywedodd Mjadzelics ei bod wedi anfon delweddau anweddus at Watkins er mwy ceisio ei ddal.

Mae'r rheithgor wedi bod yn ystyried eu penderfyniad ers dydd Llun.

Cafodd Watkins, cyn ganwr y Lostprophets, ddedfryd o 35 mlynedd o garchar yn Rhagfyr 2013.