Nid "pêl wleidyddol" yw'r gwasanaeth iechyd medd undeb
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai gwleidyddion ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd fel ''pêl wleidyddol'', yn ôl cyfarwyddwraig y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru.
Gwnaeth ei sylwadau yn dilyn wythnos pan gyhoeddwyd fod y
Dywedodd Tina Donnelly fod sgorio pwyntiau gwleidyddol dros gyflwr y gwasanaeth iechyd wedi gadael nyrsys yn ''ddigalon''.
''Oni fyddai'n beth gwych petai'r pleidiau gwleidyddol yn cytuno ar eu strategaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd?'', meddai.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei fod yn canolbwyntio ar wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
''Byddai cytundeb yn tynnu'r gwasanaeth iechyd allan o faniffestos pleidiau'', dywedodd Ms Donnelly wrth raglen Sunday Politics Wales BBC Cymru.
Ychwanegodd Mr Drakeford: ''Rwy'n cytuno'n llwyr gyda Tina Donnelly.
''Fy mlaenoriaeth ydi gwella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, nid beirniadu'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr''.
Gwrthododd Llywodraeth San Steffan a gwneud sylw ar y mater.