Unedau brys yn methu targed amser disgwyl

  • Cyhoeddwyd
Adran argyfwng

Mae'r gwasanaeth iechyd wedi methu eu targed ar gyfer yr amser mae pobl yn gorfod disgwyl i gael triniaeth mewn wardiau brys unwaith eto.

Y targed yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr, ond y ffigwr ar gyfer mis Rhagfyr oedd 81%.

Mae hwn yn ostyngiad o'r ffigwr ar gyfer mis Tachwedd, sef 83.8%.

Dydd Iau roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai'r GIG yng Nghymru yn derbyn £40 miliwn ychwanegol er mwyn helpu i ymdopi gyda phwysau'r gaeaf.

Roedd yr adran frys oedd yn perfformio orau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, gyda 90.7% o gleifion yn derbyn triniaeth o fewn pedair awr. Uned frys Ysbyty Maelor Wrecsam berfformiodd waethaf, gyda dim ond 65.6% yn derbyn triniaeth o fewn pedair awr.

Roedd 76,889 o bobl wedi ymweld ag unedau brys ym mis Rhagfyr, i'w gymharu â 75,049 ym mis Rhagfyr y llynedd.

Yn ogystal fe wnaeth 2,490 o gleifion aros dros 12 awr cyn cael eu gweld, targed y llywodraeth yw bod neb yn aros cyn hired â hynny.

Yn ystod y gaeaf mae Lloegr yn cyhoeddi ffigyrau wythnosol yn dangos faint o gleifion sydd wedi derbyn triniaeth o fewn pedair awr, ac mae'r ffigwr ar gyfer yr wythnos yn dod i ben 11 Ionawr, yn dangos bod 89.8% wedi derbyn triniaeth o fewn y targed.

Mae gan Loegr yr un targed â Chymru, 95%.

'Pwysau sylweddol'

Dywedodd y dirprwy weinidog iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ffigyrau yma'n dangos bod wyth allan o bob 10 o bobl aeth i'r uned frys ym mis Rhagfyr wedi derbyn triniaeth neu gael eu rhyddhau o'r ysbyty o fewn pedair awr.

"Tra bod y gwahaniaeth yn y ffyrdd mae'r targedau'n cael eu mesur yn ei gwneud hi'n anodd gwneud cymhariaeth uniongyrchol gyda rhannau eraill o'r DU, mae hi'n gwbl eglur bod pob gwasanaeth iechyd yn profi pwysau sylweddol.

"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru am eu hymrwymiad i ofal cleifion yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi mynegi ei rwystredigaeth yn dilyn y cyhoeddiad, gan ddweud: "Mae amseroedd aros yng Nghymru bellach y gwaethaf maen nhw wedi bod ers cychwyn cadw cofnodion, ac mae hi'n gwbl glir bod angen i'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd gymryd camau ar fyrder.

"Mae cyfnod y gaeaf wastad ymysg yr anoddaf ar gyfer y gwasanaethau brys, ond gydag un o'r gaeafau mwyaf mwyn erioed, does gan Lywodraeth Cymru unman i guddio.

"Ni ddylai'r un claf orfod disgwyl 12 awr am driniaeth mewn uned frys, ond yma yng Nghymru, mae miloedd o gleifion yn dioddef hynny."

Rhy bwysig i un blaid

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Pan roedd y ffigyrau brys ar gyfer Lloegr yn 92%, roedd y Blaid Lafur yn Lloegr wedi galw am 'gynhadledd frys' gan ddweud bod y GIG yn wynebu argyfwng. Ond yma yng Nghymru rydym ni ar ei hôl hi i'w gymharu ag ysbytai yn Lloegr, ond mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn parhau'n hunanfodlon.

"Beth sy'n amlwg i mi yw bod y GIG yn fater rhy bwysig i gael ei adael i un blaid. Mae angen comisiwn trawsbleidiol, gan weithio gyda gweithwyr iechyd a chleifion, i edrych ar ddyfodol y GIG a sut mae modd ateb yr her fydd yn ei wynebu yn y dyfodol."

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, wedi ymateb i'r cyhoeddiad drwy ddweud: "Nid yw'r ffigyrau yma'n syndod - mae'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi methu â chyrraedd eu targed ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlans, ac mae tystiolaeth sylweddol gan weithwyr y GIG sy'n dangos bod y system ofal brys dan bwysau, gan ymddangos fel pe bai mewn argyfwng cyson.

"Er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin neu eu rhyddhau yn fwy prydlon, mae angen adolygu gwasanaethau meddygon teulu a gofal cymunedol, er mwyn i gleifion allu derbyn gofal sylfaenol yn haws."