£1.2m i amddiffyn Biwmares rhag llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y brif ffordd i Fiwmares, yr A545 ei chau oherwydd y llifogydd yn Rhagfyr 2012

Gall 100 o gartrefi a 45 o fusnesau ym Miwmares elwa o gynllun gwerth £1.2 miliwn fydd yn eu hamddiffyn rhag llifogydd arfordirol, mae'r Gweinidog dros Adnoddau Naturiol, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi.

Bydd y gwaith arfordirol yn cynnwys gosod 250 metr o graidd concrit newydd, ac uwchraddio dros 660 metr o waliau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer y gwaith sy'n debygol o gostio dros £560,000 a hynny drwy ddefnyddio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ogystal â chyfraniad gan gyngor Môn.

Mae'r Cynllun Rheoli Arfordir Gogledd Cymru yn amlinellu mai cynnal y llinell bresennol o amddiffyniad yw'r ffordd orau o reoli'r perygl o lifogydd yn y lleoliad hwn yn y tymor hir.

Dywedodd y Gweinidog Carl Sargeant: "Mae gan Biwmares hanes o lifogydd ac mae'r cynllun hwn yn help sylweddol i leihau'r perygl o lifogydd i dros 145 o adeiladau yn yr ardal - mae'n diogelu cartrefi, swyddi a bywoliaethau, heb sôn am y sgil effeithiau sydd i gymunedau yr effeithir arnynt yn rheolaidd gan lifogydd."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Rhagfyr 2012 daeth tywydd drwg a llanw uchel â llifogydd i Fiwmares