Cyfiawnder? Go brin

  • Cyhoeddwyd
Mae plant yn byw gydag ansicrwydd am gyfnodau estynedig, yn sgîl y newidiadau.Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Y seicolegydd clinigol Dr Mair Edwards sy'n trafod effaith toriadau Cymorth Cyfreithiol ar blant a'u teuluoedd.

Ar Ebrill 1af 2013, fel rhan o doriadau ehangach gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, diddymwyd hawl rhieni oedd yn methu cytuno ar faterion yn ymwneud â'u plant (e.e. lle a gyda phwy ddylai plentyn fyw, trefniadau cyswllt, ayyb) i gael Cymorth Cyfreithiol (heblaw am achosion lle mae modd profi bodalaeth trais yn y cartref yn y ddwy flynedd flaenorol).

Bellach mae gennym gyfundrefn "gyfiawnder" ddwy-haenog. I'r rhai sydd â'r modd i dalu mae cyngor, arweiniad, a chynrychiolaeth cyfreithiol.

Ond pa ddewis sydd gan riant lle nad oes ganddynt y modd i dalu am wasanaethau cyfreithiol?

Un dewis yw derbyn y sefyllfa a pheidio dwyn achos. O ganlyniad mae rhai plant yn colli cysylltiad llwyr gydag un rhiant, a hynny heb reswm da. Mae plant eraill yn byw gyda, neu'n ymweld â, rhiant lle mae lle i bryderu, a'r rhiant arall yn teimlo'n gwbl ddiymadferth i ymyrryd i ddiogelu'r plentyn.

Dewis arall yw bod rhiant yn dwyn achos ac yn cynrychioli ei hun - ond haws dweud na gwneud. Er enghraifft, er mwyn cychwyn achos i gael cyswllt gyda phlentyn mae angen llenwi ffurflen 24 tudalen o hyd, a darllen 32 tudalen o ganllawiau a nodiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau yn diddymu hawl nifer o rieni, yn ôl Dr Mair Edwards

Wedyn mae angen paratoi tystiolaeth ysgrifenedig, ac ymateb i'r dogfennau mae'r rhiant arall yn eu cyflwyno. Felly, mae angen sgiliau llythrennedd da, ac amser. I riant gydag anabledd neu anawsterau dysgu, neu gyflwr fel Dyslexia, mae'n dasg enfawr.

Effaith ar adnoddau

Mewn gwrandawiad yn y Llys mae angen cyflwyno tystiolaeth ar lafar, gwrando ar dystiolaeth, croesholi, a chael eich croesholi. Mae disgwyl i rieni cyffredin eirioli'n effeithiol, ar eu rhan eu hunain, a hynny o flaen y cyn-gymar sy'n wrthwynebus, yn ofyn mawr iawn.

I rieni sydd hefyd â phroblemau iechyd meddwl, anhwylderau personoliaeth, neu broblemau alcohol a/neu gyffuriau mae cyflwyno eu hachos eu hunain, heb wybodaeth gyfreithiol, a heb gefnogaeth broffesiynol, yn aruthrol anodd.

Nid yw'n syndod deall felly bod achosion lle mae rhieni yn cynrychioli eu hunain wedi cynyddu'n sylweddol ers Ebrill 2013, ac yn defnyddio mwy o adnoddau ac amser swyddogion a'r Llys, ac yn cymryd amser hirach i achosion ddirwyn i ben, ac nid oes unrhyw sicrwydd nad yw'r toriadau i Gymorth Cyfreithiol wedi cynyddu gwariant mewn adrannau eraill, dolen allanol.

Yn y cyfamser, mae plant yn byw gydag ansicrwydd am gyfnodau estynedig.

Cyfiawnder? Go brin.

Bydd Dr. Mair Edwards yn ymuno â'r Aelod Seneddol Albert Owen o'r Blaid Lafur, Rhun ap Iorwerth AC Plaid Cymru a Gethin James, Is Gadeirydd UKIP yng Nghymru ar Pawb a'i Farn yn fyw o Gaergybi nos Iau am 9.30 S4C