'Newidiadau syfrdanol' Etholiad 2015
- Cyhoeddwyd
Mae David Cameron wedi dychwelyd i Downing Street a'i blaid wedi sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe gipiodd y Ceidwadwyr 331 o seddi drwy'r DU - gan olygu bod ganddyn nhw fwyafrif seneddol o 12 - dyma ganlyniad gorau'r blaid ers 1992.
Wrth siarad ar riniog Rhif 10 Downing Street ar ôl cwrdd â'r Frenhines ddydd Gwener, dywedodd Mr Cameron fod y wlad "ar gyrraedd rhywbeth arbennig", ac y gallai Prydain "fod yn rhywle ble mae'r bywyd da o fewn cyrraedd pawb sy'n hapus i weithio a gwneud y peth iawn."
Ychwanegodd: "Mae hon yn wlad sydd â sgiliau a chreadigrwydd heb eu tebyg. Bydd adeiladu ar hyn yn sicrhau dyfodol hyd yn oed gwell i Brydain."
Llywyddodd y blaid i gynnyddu nifer eu seddi yng Nghymru, gan gynnwys cipio Dyffryn Clwyd a Gŵyr gan Lafur, a Brycheiniog a Maesyfed gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ymddiswyddiadau
Yn dilyn y canlyniadau, cyhoeddodd Ed Miliband y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur a dyna hefyd oedd penderfyniad Nick Clegg ar ôl noson drychinebus i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Wedi iddo fethu ag ennill sedd De Thanet, mae Nigel Farage hefyd wedi ildio'r awenau fel arweinydd UKIP. Er bod y blaid yn drydedd yng Nghymru o ran nifer y pleidleisiau, wnaethon nhw ddim llwyddo i gipio sedd.
Y darlun yng Nghymru
Enillodd y Ceidwadwyr 11 sedd yng Nghymru - eu canlyniad gorau yma ers 1983.
25 sedd sydd gan y blaid Lafur yng Nghymru, un yn llai nag yn 2010. Ond yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru dyma "ail berfformiad gwaethaf y blaid Lafur yng Nghymru ers 1918 - a'r nifer isaf o seddi yng Nghymru ers 1987 (pan oedd dim ond 38 sedd mewn bodolaeth)".
Mae Plaid Cymru wedi dal eu gafael ar eu tair sedd, sef Arfon, Dwyfor Meirionnydd - ble daeth Liz Saville Roberts yn AS benywaidd gyntaf erioed y blaid - a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Ond roedd y blaid 229 o bleidleisiau yn brin o gipio Ynys Môn oddi wrth Lafur.
Collodd Jenny Willott o'r Democratiaid Rhyddfrydol sedd Canol Caerdydd i Lafur, ond fe wnaeth Mark Williams gadw sedd Ceredigion, gyda'i fwyafrif wedi gostwng i 3,000 - roedd yn 8,000 yn 2010.
Perfformiodd UKIP yn gryf mewn nifer o seddi yng Nghymru, gan ddod yn ail mewn nifer o etholaethau, gan gynnwys Blaenau Gwent, Islwyn, Merthyr Tudful a Chaerffili.
Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill ei bod wedi bod yn "noson hudolus i UKIP, gan gadarnhau ein lle fel y drydedd blaid yng Nghymru".
Yn ôl Alun Michael, cyn brif weinidog Cymru, mae "cymaint o bobl cryf iawn ymysg yr aelodau Llafur sydd wedi colli ei seddau".
Ymhlith y rhain mae arweinydd Llafur yr Alban, Jim Murphy ac ysgrifennydd tramor yr wrthblaid Douglas Alexander sydd wedi colli eu seddi i'r SNP, ac Ed Balls, llefarydd yr wrthblaid ar y Trysorlys, a gollodd ei sedd i'r Ceidwadwyr.
Bydd angen dau aelod newydd ym Mae Caerdydd gan fod dau AC presennol wedi ennill seddi yn San Steffan - Byron Davies yn cipio Gŵyr oddi ar Lafur ac Antoinette Sandbach yn ennill yn Eddisbury. Mae disgwyl i'r ddau aelod Ceidwadol ildio'u seddi yn y Cynulliad.
'Newidiadau syfrdanol'
Enillodd yr SNP 56 allan o'r 59 sedd yn Yr Alban.
Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd, sydd yn yr Alban, mae "newidiadau syfrdanol yn digwydd ar hyd y wlad. Mae'n debyg mai stori'r noson ydi nid cymaint faint mae'r SNP yn ennill y seddau - ond maint y gogwydd syfrdanol - 39% ydi'r mwyaf".
Mae rhai o arbenigwyr gwleidyddol mwya' blaenllaw'r DU yn credu fod y term "Gwleidyddiaeth Pleidiol Prydain" wedi diflannu. Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru:
"Roedd hwn yn Etholiad Cyffredinol wedi'i gynnal yng nghysgod hir refferendwm annibyniaeth Yr Alban.
"Roedd sedd ar ôl sedd yn disgyn i ymchwydd yr SNP, oedd yn cyfateb a hyd yn oed yn cynyddu'r gogwydd a welwyd yn yr is-etholiadau. Ar ôl 18 Medi 2014, fydd gwleidyddiaeth Yr Alban byth 'run fath.
"Ond yn Lloegr hefyd, mae'r refferendwm wedi cael effaith drawsffurfiol. Roedd sefyll dros Loegr wedi dod yn thema etholiadol i'r Ceidwadwyr ac UKIP.
"Y neges oddi tano'n awgrymu fod yr Albanwyr yn ceisio manteisio ar Loegr. Roedd gallu'r Ceidwadwyr i elwa o hyn trwy ganolbwyntio ar ddylanwad celwyddog yr SNP ar unrhyw lywodraeth Lafur yn y dyfodol wedi profi'n arf effeithiol iawn i Lynton Crosby.
"Oes modd pontio'r gagendor gwleidyddol sy' wedi agor o ganlyniad i'r ymatebion gwahanol hyn i annibyniaeth yn Yr Alban? Mae hyn hefyd yn anodd credu."