Canolfan Gymraeg i Gaerdydd?
- Cyhoeddwyd

Byddai'r ganolfan Gymraeg yn Yr Hen Lyfrgell ar Yr Aes, ochr yn ochr ag Amgueddfa Stori Caerdydd
Gall canolfan Gymraeg gael ei datblygu yng nghanol Caerdydd.
Bwriad creu'r ganolfan yw dathlu a diogelu'r iaith, ynghyd â sicrhau bod gan drigolion ac ymwelwyr gyfle i siarad Cymraeg.
Bydd argymhelliad yn cael ei roi i aelodau cabinet Cyngor Caerdydd y dylen nhw gymeradwyo'r datblygiad yn yr Hen Lyfrgell mewn cyfarfod ddydd Iau.
Byddai'r ganolfan yn cael ei hariannu gan arian o gronfa gwerth £1.25m gan lywodraeth Cymru. Bwriad sefydlu'r gronfa yw datblygu canolfannau Cymraeg ar draws y wlad.
Pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, byddai'r ganolfan ochr yn ochr ag Amgueddfa Stori Caerdydd, sydd eisoes yn adeilad yr Hen Lyfrgell ar Yr Aes.
Ymysg y mudiadau fydd yn rhan o'r cynllun mae Prifysgol Caerdydd, fyddai'n rhedeg cyrsiau Cymraeg, Clwb Ifor Bach, fyddai'n trefnu perfformiadau gan fandiau Cymraeg, ac S4C, fyddai'n darparu offer rhyngweithiol i blant.
Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, enw'r ganolfan newydd fyddai'r Hen Lyfrgell, a byddai'n cynnwys caffi, siop lyfrau, ystafelloedd dysgu, arddangosfeydd, manau perfformio ac ystafelloedd cynhadledda.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2015
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014