Bwrdd iechyd yn gorfod ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd
bwrdd iechyd prifysgol hywel ddaFfynhonnell y llun, Hduhb

Mae bwrdd iechyd wedi cael gorchymyn i ymddiheuro i wraig weddw a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei gŵr.

Bydd rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd dalu £1,000 i'r teulu wedi i'r dyn orfod disgwyl am dair awr i weld meddyg ychydig cyn iddo farw.

Fe ddaeth gorchymyn hefyd i'r gwasanaeth ambiwlans dalu £500 i'r teulu oherwydd y poen meddwl achoswyd iddyn nhw.

Mae'r bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cytuno i ddilyn argymhellion yr ombwdsmon.

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, fod y bwrdd iechyd wedi methu â sicrhau bod meddyg teulu ar gael y tu allan i oriau arferol yn ardal Sir Benfro ar 15 Gorffennaf 2013.

Dywedodd Mr Bennett mai canlyniad hyn oedd bod y dyn, sy'n cael ei adnabod yn yr adroddiad fel Mr X, wedi diodde' cyfnod sylweddol o boen a phoen meddwl yn ystod ei oriau olaf.

Prinder meddygon teulu

Yn eu tystiolaeth i'r ymchwiliad, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn ei chael hi'n fwyfwy anodd sicrhau bod digon o feddygon teulu ar gael i ateb y galw ar benwythnosau ac adegau prysur.

Yn ystod y digwyddiad dan sylw, roedd un meddyg teulu ar ei wyliau a dywedodd y bwrdd eu bod wedi methu sicrhau fod cynllun i ddod â meddyg i mewn o ardal arall.

Yn ei adroddiad, dywedodd yr ombwdsmon fod y claf yn derbyn gofal lliniarol 'diwedd oes' yn ei gartref, a bod ei wraig wedi cwyno nad oedd "wedi cael cyfle i farw gydag urddas a llonyddwch gyda'i deulu o'i amgylch".

Ychwanegodd y wraig weddw bod y profiad wedi bod yn un dychrynllyd iddi hi a'i merched.

Dangosodd ymchwiliad yr ombwdsmon bod parafeddyg gafodd ei alw wedi marwolaeth y dyn ddim wedi deall ei gyfrifoldebau yn llawn, a'i fod wedi ffonio'r heddlu heb fod angen.

Dywedodd yr ombwdsmon bod y bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cytuno i ddilyn ei argymhellion yn llawn - argymhellion sy'n ymwneud ag adolygu gweithdrefnau i'w staff.