Hawl i fyw: Cyfarfod Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cytuno i gyfarfod Cymro sydd wedi gorfod symud i Loegr ar gyfer triniaeth canser.
Mae Irfon Williams, tad 44 oed o o Fangor, yn diodde' o ganser y coluddyn sydd wedi lledu i'w iau.
Cafodd ei drin â chyffur Cetuximab sy' ddim ar gael yng Nghymru ond ar gael iddo yn Lloegr fel rhan o'r Gronfa Cyffuriau Canser.
Fis diwethaf clywodd Mr Williams fod tiwmorau yn ei iau wedi lleihau digon iddo gael llawdriniaeth i dynnu'r canser.
Ei hanes sy' wedi ysbrydoli ymgyrch #HawliFyw.
'Hynod anghyffredin'
Yn sesiwn holi'r prif weinidog yn y Cynulliad ddydd Mawrth dywedodd Mr Jones ei fod yn croesawu gwelliant "hynod anghyffredin" Mr Williams.
Roedd ymateb chwyrn gan wleidyddion eraill, gan gynnwys Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ddywedodd ei bod hi'n "warth cenedlaethol" fod cleifion yn gorfod mynd dros y ffin i gael rhai cyffuriau canser.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Elin Jones "mai'r prif weinidog yn rhoi barn feddygol am unigolyn yw'r unig beth 'hynod anghyffredin' yma".
Yn siarad nos Iau, dywedodd Mr Williams ei fod yn "ddiolchgar iawn am y cyfle" i gyfarfod Mr Jones, ac y byddai'n trafod ei brofiad personol wrth ddelio gyda'i salwchyn ogystal â'r polisi sy'n penderfynu ar gyllido cyffuriau tebyg i'r un y gafodd o yn Lloegr.
Roedd Mr Jones hefyd wedi dweud ei fod yn awyddus i'r canllawiau ar gyfer gwneud cais am arian ar gyfer cyffuriau penodol gael eu haddasu mewn amgylchiadau eithriadol fel rhai Mr Williams.
Mewn cyfweliad ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ddydd Iau fe alwodd Mr Williams unwaith eto am gael cyfarfod y prif weinidog.
Wedi'r cyfweliad cafodd wybod gan swyddfa Mr Jones y byddai'n teithio i'r gogledd i'w gyfarfod yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2015