Agor Pont Briwet, Meirionnydd wedi cynllun £20m
- Cyhoeddwyd
Bellach mae modd croesi'r bont newydd dros aber afon Dwyryd, yng ngogledd Meirionnydd, wedi i Bont Briwet agor yn swyddogol ddydd Llun.
Cafodd yr hen bont a oedd yn 150 oed ei chau 18 mis yn ôl ac ers hynny bu'n rhaid i drigolion yr ardal deithio 16 milltir ychwanegol i fynd i'w gwaith neu i siopa ac mae hynny wedi creu anhwylustod a chostau ychwanegol.
Cafodd system gonfoi ei defnyddio i hwyluso traffig ar yr A496 rhwng Llandecwyn a Maentwrog gan fod y ffordd mor gul.
Mae'r bont newydd wedi costio £20 miliwn, arian o Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, Network Rail, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Cafodd y bont reilffordd ei hagor ym mis Medi'r llynedd ac roedd y bont i gerbydau i fod i agor chwe mis yn ôl ond oherwydd problemau technegol bu rhaid gohirio'r agoriad.
Fe wnaeth plant o ysgolion Talsarnau a Phenrhyndeudraeth dorri'r rhuban i agor y bont newydd yn swyddogol ddydd Llun.
Bydd modd i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio'r lon newydd a fydd yn cysylltu gyda Llwybr Arfordir Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd1 Medi 2014
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014