Cwrs golff Llangefni: Bargen newydd

  • Cyhoeddwyd
arwydd cwrs golff LlangefniFfynhonnell y llun, Google

Mae Partneriaeth Llangefni wedi cymryd y cyfrifoldeb o redeg y cwrs golf lleol ar ôl cytuno les gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Mae'r grŵp menter gymdeithasol leol wedi bod yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor er mwyn cadw'r cwrs golff naw twll ar agor, wedi i'r Pwyllgor Gwaith gytuno i drafod ym mis Mai.

Mae'r trafodaethau yma eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gan alluogi i'r barneriaeth gadw'r cwrs a'r llain ymarfer ar agor tan Ebrill 2017.

Cafodd y cwrs golff ei agor yn wreiddiol gan Gyngor Bwrdeistref Môn ym 1983.

Bydd y cwrs yn cael ei agor yn swyddogol dan reolaeth Partneriaeth Llangefni ar 17 Gorffennaf.

'Dymuno pobl llwyddiant'

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir a'r deilydd portffolio Hamdden, y Cynghorydd Ieuan Williams:

"Ar ôl ystyried yn ofalus, roeddem o'r farn mai trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y cyfleuster i Bartneriaeth Llangefni oedd yr opsiwn gorau ar gyfer y cwrs golf, a dyfodol y cyfleuster hamdden ar Ynys Môn yn y tymor byr.

"Byddwn yn gweithio gyda'r fenter gymdeithasol i sicrhau trosglwyddiad didrafferth ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn ei ymdrechion.

"Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa ariannol sydd ohoni, bydd y Cyngor yn edrych i gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned a chyrff cymdeithasol eraill er mwyn arbed y gwasanaethau anstatudol hynny gaiff eu mwynhau gan nifer helaeth o'r gymuned.

"Mae trosglwyddo'r cwrs golff yn esiampl wych o be ellir ei gyflawni drwy bartneriaeth."

'Cyfleuster cymunedol llwyddiannus'

Sefydlwyd is-grŵp o saith aelod o fewn Partneriaeth Llangefni, gan gynnwys golffwyr brwd, ac aethant ati i edrych yn ofalus ar y posibilrwydd o redeg y cwrs a chyflwyno cynllun busnes i'r Cyngor.

Eglurodd Cadeirydd yr is-grŵp, Berwyn Owen:

"Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i'r fenter newydd yma ac yn falch o fod gennym nawr les ar y cyfleuster. Y nod yw cadw'r cwrs fel cyfleuster cymunedol llwyddiannus, gyda'r gobaith o sicrhau arian i brynu ar ôl 2017.

"Mae'r cwrs yn gyfleuster hamdden bwysig ac mae'r potensial yma i ehangu trwy greu cysylltiadau gydag ysgolion lleol a grwpiau eraill. Roedd ddeiseb 1,000 enw a gafwyd yn brawf bod y cwrs yn bwysig iawn i'r gymuned leol ac rydym yn annog pobl i ddefnyddio'r cwrs a chyfrannu tuag at ei llwyddiant i'r dyfodol.

"Rhoddodd y Cyngor Sir wrandawiad gofalus i'n achos busnes a chyfle gwerthfawr i achub Cwrs Golff Llangefni."