Gobaith i gwrs golff Llangefni?
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu cychwyn trafodaethau gyda menter gymdeithasol Partneriaeth Llangefni, gyda'r bwriad o gadw Cwrs Golff Llangefni a'r llain ymarfer ar agor hyd at Ebrill 2017.
Cytunodd pwyllgor gwaith Cyngor Môn i drosglwyddo rheolaeth o'r safle i'r grwp menter cymdeithasol lleol mewn cyfarfod ddydd Mawrth, yn ôl datganiad gan y cyngor.
Ym mis Ionawr fe benderfynodd y pwyllgor gwaith gau cwrs golff Llangefni, yn dilyn adolygiad ddaeth i'r casgliad bod y cwrs naw twll yn gwneud colled flynyddol ac wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd.
Mae'r nifer sy'n defnyddio'r safle hefyd wedi disgyn, a'r sector preifat yn parhau i ddarparu cystadleuaeth sylweddol yn ôl y cyngor. Roedd y cwrs golff i fod i gau ym mis Ebrill.
"Diddordeb"
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir a'r deilydd portffolio Hamdden, y Cynghorydd Ieuan Williams: "Cawsom nifer o ddatganiadau o ddiddordeb parthed rheolaeth tymor byr Cwrs Golff Llangefni a'r Llain Ymarfer yn dilyn ein penderfyniad gwreiddiol i gau'r cyfleuster.
"Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r rhain i gyd, ond rydym yn teimlo mai trosglwyddo cyfrifoldeb am y safle i Bartneriaeth Llangefni fyddai'r opsiwn gorau yn y tymor byr.
"Mae yna dal nifer o faterion sydd angen eu datrys, gan gynnwys staffio i'r dyfodol, ond mae gan ein swyddogion nawr fandad er mwyn cychwyn trafodaethau mwy manwl gyda Partneriaeth Llangefni."
Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y trafodaethau yma'n llwyddiannus ac y gall y cyfleuster yma aros yn agored hyd nes o leiaf Ebrill 2017."
Cafodd cwrs golff trefol Llangefni ei agor ym 1983 gan Gyngor Bwrdeistref Môn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2014