Cwest myfyrwraig: Gor-ddos anfwriadol

  • Cyhoeddwyd
Eloise Parry

Mae'r cwest i farwolaeth myfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi dyfarnu ei bod wedi marw oherwydd gor-ddos o gyffuriau drwy ddamwain.

Roedd Eloise Parry - 21 oed o'r Amwythig - wedi cymryd gormod o dabledi colli pwysau gafodd eu prynu ar-lein.

Dywedodd yr heddlu bod y tabledi'n cael eu profi ar hyn o bryd ond eu bod nhw'n credu eu bod yn cynnwys y cemegyn diwydiannol, dinitrophenol, sy'n cael ei adnabod fel DNP.

Yn y DU mae'r cemegyn wedi cael ei wahardd rhag cael ei roi mewn cynnyrch sy'n cael ei fwyta.

'Dim panig mawr'

Aeth Ms Parry i'r uned frys wedi iddi gymryd mwy o'r tabledi nag oedd yn cael ei argymell.

Dywedodd ei mam, Fiona, fod Eloise wedi cerdded i mewn i Ysbyty Brenhinol Amwythig pan ddechreuodd deimlo'n wael.

Yn ôl ei mam, "doedd dim panig mawr" tan i adroddiad tocsicoleg ddangos "pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa".

Dywedodd ei mam fod metaboledd ei merch wedi cynyddu'n aruthrol wrth i'r cyffur ddechrau effeithio arni.

"Mi wnaethon nhw drio ei hoeri ond roedden nhw'n wynebu tasg anodd iawn.

"Roedd hi'n llosgi o'r tu mewn allan ... Pan wnaeth ei chalon stopio nid oedden nhw'n gallu ei hadfywio.

"Roedd dwy dabled yn ddigon i ladd - ac roedd hi wedi cymryd wyth."