'Anialwch cyfreithiol' rhannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
cyfiawnder

Mae cyfreithwyr wedi rhybuddio y gallai Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dod yn "anialwch cymorth cyfreithiol" oherwydd newidiadau gan Lywodraeth y DU.

Mae cynlluniau ar y gweill i dorri nifer y cwmnïau cyfreithiol sydd ar y rhestr 'cyfreithiwr ar ddyletswydd' ar draws Cymru a Lloegr o 1,300 i 500, ac i rannu'r wlad yn ardaloedd sy'n gallu cynnig am y gwaith.

Fe fyddai Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gyd yn ffurfio un ardal.

Ond mae cyfreithwyr yn y rhanbarth wedi rhybuddio ei fod yn ardal rhy eang i'w chynrychioli ac ni fyddai'n gwneud synnwyr economaidd i barhau â'r cynlluniau.

50% o'r gwaith

Fe ddywedodd Paul Inns, sy'n gyfreithiwr troseddol yn y Drenewydd, wrth BBC Cymru fod 50% o'i waith yn dod trwy Gymorth Cyfreithiol.

Ers 1 Gorffennaf, mae holl gyfreithwyr ardal Powys a Cheredigion, gan gynnwys cwmni Mr Inns, wedi gwneud penderfyniad i weithio i reol - a hynny yn y llys ynadon a'u gwaith yng ngorsaf yr heddlu.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am weld 4 cwmni yn unig ar y rota 'cyfreithiwr ar ddyletswydd' ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru - ond dim ond un cwmni sydd wedi gwneud cais i fod ar y rhestr ac yn ôl Mr Inns, tydi hi ddim yn werth i'w gwmni wneud cais.

"Dyda ni ddim mewn sefyllfa i wneud cais am gontract oherwydd nid yw'n ymarferol yn economaidd oherwydd bod asiantaeth cymorth gyfreithiol wedi creu ardal caffael mor enfawr, mae'n gwbl ddisynnwyr," meddai.

"Maen nhw wedi cael un cynnig am y gwaith ac mae angen pedwar ar y rhestr. Nid yw cyfreithwyr lleol yn gallu darparu'r gwasanaeth 'cyfreithiwr ar ddyletswydd' mwyach, mae hyn yn mynd i greu anialwch cymorth cyfreithiol drwy ganolbarth a gorllewin Cymru.

"Mae'n mynd i olygu y bydd pobl yn cael eu cadw yn hirach yn y ddalfa wrth aros am gyfreithiwr ar ddyletswydd am eu bod angen teithio pellter mawr."

'Embaras'

Dywedodd Alan Lewis o gwmni cyfreithiol Taylor Lewis yn Aberteifi "Mae'r rhai ohonom sy'n gweithio yn y system wedi papuro dros y craciau am nifer o flynyddoedd, ond ni allwn barhau i wneud hynny.

"A bod yn onest, mae'r system yn methu. Mae bron yn embaras i ddod i weithio yn y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd gyda'r toriadau sy'n cael eu gorfodi, a tydi pethau ddim ond yn mynd i waethygu ym mis Ionawr."

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud yn y gorffennol fod y newidiadau i gymorth cyfreithiol yn cael eu cyflwyno i sicrhau fod trethdalwr yn cael y gwerth gorau am arian a bod y lefel uchaf posib o wasanaeth cyfreithiol ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.