Cyfreithwyr o ogledd Cymru yn penderfynu streicio

  • Cyhoeddwyd
cyfreithwyr

Mae cyfreithwyr yng ngogledd Cymru wedi cytuno i brotestio yn erbyn toriadau i Gymorth Cyfreithiol.

Daw hyn wedi i lywodraeth San Steffan benderfynu lleihau'r arian mae cyfreithwyr yn ei dderbyn am y gwaith.

Mae system gymorth newydd yn dod i rym ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr.

Mewn cyfarfod nos Fawrth fe benderfynodd cyfreithwyr o ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint na fyddan nhw'n derbyn gwaith Cymorth Cyfreithiol mewn gorsafoedd heddlu nag yn y llysoedd o ddydd Mercher ymlaen.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod eisiau sicrhau fod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian.

Trafod

Dywedodd Paul Abraham, o gwmni cyfreithiol Abrahams yn Wrecsam: "Rydym yn gobeithio y bydd y Gweinidog dros Gyfiawnder, Michael Gove, rŵan yn trafod â chyfreithwyr er mwyn adnabod ffyrdd gwell o arbed arian o fewn y system gyfiawnder.

"Fe fydd y toriadau yma yn ei gwneud yn amhosib i gwmnïau cyfreithiol ddarparu gwasanaeth effeithiol i'n cleientiaid."

Dywedodd Owen Edwards, o Siambrau Linenhall, sy'n cynrychioli bargyfreithwyr gogledd Cymru a Sir Caer, wrth BBC Cymru Fyw fod y toriadau yma yn "argyfwng ar y byd cyfreithiol".

Dywedodd fod "hyn yn effeithio arnom ni i gyd. Effaith y toriadau hyn fydd cau nifer o gwmnïau cyfreithiol bach sydd wedi bod yn gwasanaethu ardaloedd cefn gwlad ers cenedlaethau.

Mewn cyfarfod arall yn ne Cymru, fe benderfynu cyfreithwyr yno i beidio â gweithredu'n ddiwydiannol yn sgil y toriadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y newidiadau yn cael eu cyflwyno i sicrhau fod trethdalwr yn cael y gwerth gorau am arian a bod y lefel uchaf posib o wasanaeth cyfreithiol ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.