Dysgu hanes Cymru: 'Dim wedi newid'

  • Cyhoeddwyd
arholiad

Mae academydd, ysgrifennodd adroddiad i Lywodraeth Cymru ar sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, yn dweud nad oes unrhyw beth wedi newid ers cyhoeddi'r adroddiad ddwy flynedd yn ôl.

Fe ddywedodd Dr Elin Jones wrth BBC Cymru fod angen llawer mwy o bwyslais ar y pwnc, a bod "ychydig iawn o dystiolaeth" fod y pwnc yn cael ei ddysgu'n dda mewn ysgolion.

Mae gan oddeutu 10-15% o'r cwrs Hanes TGAU gynnwys am Gymru.

Dywedodd Gareth Pierce, prif weithredwr bwrdd arholi mwyaf Cymru, CBAC, ei fod yn derbyn nad oedd yna ddigon o bwyslais ar hanes Cymru ond y dylai'r sefyllfa wella y flwyddyn nesaf wrth i gyrsiau newydd gael eu cyflwyno.

"Dw i'n credu mai dyma fu'r achos o ran y meini prawf presennol ar gyfer TGAU Hanes, ond rydym yn ailwampio'r meini hynny, gan symud at sefyllfa lle bydd tair uned ddysgu, gyda chanolbwynt Cymreig ar ddwy o'r unedau hynny'n hanfodol," meddai.

'Amddifadu pobl ifanc'

Ond dywedodd Dr Jones: "Mae gormod o athrawon yn meddwl am hanes Cymru fel atodiad - yn fy marn i - yn hytrach na sylfaen i ehangu'r dysgu ohono.

"... Ry'n ni'n amddifadu pobl ifanc o synnwyr o'u gorffennol, a synnwyr o le maen nhw'n perthyn, a'u hunaniaeth nhw.

"Fe wnes i ymgynghoriad bach wrth i mi baratoi fy adroddiad, gan fynd i lyfrgelloedd i siarad gyda phobl.

"Fe ddywedodd llawer wrtha i fod eu haddysg nhw wedi eu hamddifadu o'r cyfle i ddysgu am eu gwlad eu hunain. Mae hynny'n beth digalon iawn i'w ddysgu."

'Perthnasol ac ystyrlon'

Yn gynharach eleni fe ysgrifennodd yr Athro Graham Donaldson - cyn brif arolygydd ysgolion Yr Alban - adroddiad yn amlinellu cynllun i weddnewid y cwricwlwm i ddisgyblion 3-16 oed yng Nghymru.

Mae Dr Jones yn honni nad ydy'r adroddiad yn rhoi digon o bwyslais ar hanes Cymru, "gyda dim llawer mwy o sylw y tu hwnt i iaith a diwylliant".

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd yr Athro Donaldson yn gwbl glir y dylid cynnwys elfen Gymreig ymhob ardal o Ddysgu a Phrofiad.

"Mae hyn yn cydfynd ag adroddiad Cwricwlwm Cymreig Dr Elin Jones, sy'n argymell y dylai elfen Gymreig ymddangos ymhob pwnc, lle bo hynny'n berthnasol ac ystyrlon.

"Fe fyddwn ni nawr yn creu cwricwlwm i Gymru, wedi ei ddylunio yng Nghymru gan Gymru. Fe fydd Ysgolion Arloesi yn arwain y ffordd wrth ddylunio a datblygu'r cwricwlwm newydd."