Trafod cynllun dadleuol addysg Gymraeg Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Tasker Milward
Disgrifiad o’r llun,

Dan gynllun y cyngor, byddai ysgol fawr newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Tasker Milward

Bydd cynlluniau dadleuol i uno dwy ysgol uwchradd a chreu ysgol Gymraeg fawr newydd yn Sir Benfro yn cael eu trafod ddydd Iau.

Dan y cynllun byddai'r ddwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd - Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward - yn uno, ac fe fyddai rhai ysgolion eraill yn colli eu hadrannau chweched ddosbarth.

Byddai ysgol fawr, cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Tasker Milward.

Mewn cyfarfod, bydd Cyngor Sir Penfro yn trafod ymgynghoriad newydd ar y cynlluniau, sydd wedi bod yn ddadleuol.

Mae'r cyngor wedi methu a dod i gytundeb gyda'r elusen sy'n berchen safle Ysgol Tasker Milward.

Daw hyn ar ôl i gynghorwyr bleidleisio yn erbyn argymhelliad i gau Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Nhyddewi.