Tlodi: Adroddiad yn codi pryderon am sgiliau iaith plant
- Cyhoeddwyd
Mae un ym mhob pedwar plentyn sy'n cael eu magu mewn tlodi yng Nghymru yn gadael addysg gynradd yn methu darllen yn dda, gyda'r bwlch yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar, yn ôl adroddiad.
Mae adroddiad 'Barod i Ddarllen' ar gyfer elusen Achub y Plant yn nodi mai plant sy'n byw mewn tlodi sydd â'r perygl mwyaf o fod ar ei hôl hi o ran sgiliau iaith.
Nawr mae ymgyrch Darllena.Datblyga yn galw ar Lywodraeth Cymru i "fuddsoddi yn y gweithlu ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gan roi cefnogaeth i rieni ym mlynyddoedd cynnar magu plant".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu ac yn cydweithio gyda'r ymgyrch, a bod nifer o bolisïau a phrosiectau addysg â'r nod o wella llythrennedd plant.
Dywed yr adroddiad fod tlodi yn effeithio ar addysg plant mewn ffyrdd gwahanol.
Mewn rhai achosion, mae ceisio byw ar incwm isel yn creu straen a phryder sy'n gallu gwneud pethau'n anodd i rieni i fod yn rhan o ddatblygiad dysgu eu plant. Gall incwm isel hefyd gyfyngu ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi addysg gynnar plentyn.
Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn help i esbonio'r bwlch addysgol parhaus yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n atal miloedd o'r plant tlotaf rhag cyflawni eu potensial.
Patrymau'n parhau
Mae dadansoddiad newydd gan Astudiaethau Carfan y Mileniwm yn dangos fod plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na'r cyfartaledd ar eirfa pan yn bump oed na phlant o gefndiroedd mwy breintiedig, ac mae'r patrymau hyn yn parhau wrth i blant dyfu.
Mae plant sy'n darllen yn dda erbyn 11 oed yn llwyddo'n well yn yr ysgol, yn cael canlyniadau gwell yn eu harholiadau ac yn llwyddo'n well yn y gweithle, ychwanega'r adroddiad.
Ymhlith y ffactorau sy'n cael eu nodi yn y ddogfen allai helpu datblygiad sgiliau iaith plant mae cefnogaeth Therapydd Lleferydd ac Iaith.
Mae'r Adroddiad yn croesawu'r mentrau diweddar yng Nghymru ac eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ansawdd y gweithlu mewn addysg gynnar, drwy sicrhau fod gan bob aelod o staff a rhiant fynediad at arbenigwr iaith mewn addysg gynnar erbyn 2020.
'Dechrau gorau'
Dywedodd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: "Os ydym yn mynd i adeiladu Cymru sy'n gadarn ac yn llwyddiannus, yna mae'n hanfodol fod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, beth bynnag fo eu cefndir.
"Yr ydym yn gwybod bod iaith dda yn gynnar mewn bywyd yn garreg sarn hollbwysig i lythrennedd a bod plant sydd â gafael dda ar iaith yn bump oed yn fwy tebygol o gael cymwysterau uwch a bod mewn swydd pan fyddant yn oedolion o'u cymharu â phlant eraill."
Yr Athro Chris Taylor, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, (WISERD), Prifysgol Caerdydd:
"Mae tystiolaeth eglur bod tlodi ac amddifadedd yn parhau i effeithio ar allu plant i ddarllen yn dda. Pan fo rhieni yn ymdrechu i ddod o hyd i waith, neu'n ymgymryd â gwaith ychwanegol ddim ond er mwyn talu'r rhent, gellir yn aml beidio â rhoi'r sylw sydd ei angen i'r plant ym more oes.
"Mae ceisio cael rhyw fath o drefn, fel prydau bwyd teuluol neu amser gwely cyson, yn gallu bod yn gyfle i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd plentyn drwy sgyrsiau a darllen llyfrau. Ond rhaid peidio anghofio fod rhai rhieni yn ddihyder i roi cefnogaeth fel hyn i'w plant. Bydd yr ymgyrch Darllena.Datblyga yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen i'r teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed."
'Deall a dehongli'
Un sy'n cefnogi ymgyrch Darllena.Datblyga yw Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, a ddywedodd: "Mae "darllen" yn fwy nag edrych ar air a gallu ei ddweud neu ei ysgrifennu.
"Mae "darllen" yn golygu "deall" a "dehongli". Os na fyddwn ni'n annog ein plant o oedran ifanc i ymdrechu i ddeall a dehongli'r byd, yna rydan ni'n cyfyngu eu dyfodol."
Mae'r ymgyrch Darllena.Datblyga yn dod â nifer o sefydliadau cenedlaethol ym maes llythrennedd a chyfathrebu at ei gilydd, ynghyd â llyfrgelloedd, undebau athrawon, asiantaethau cyhoeddi ac elusen Achub y Plant.
Mae'r glymblaid wedi gosod nod i gael pob plentyn i ddarllen yn dda yn 11 oed erbyn 2025, ynghyd â tharged tymor byr i sicrhau fod gan bob plentyn yng Nghymru sgiliau iaith da pan fyddan nhw'n cychwyn yn yr ysgol.
Croesawu a chydweithio
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ymgyrch ac yn gweithio'n agos gyda'r prosiect.
"Fel mae'n digwydd, mae'n ategu at ein hymgyrch 'Rho Amser i Ddarllen', a lansiwyd yn 2010, sy'n pwysleisio bod 10 munud o ddarllen bob dydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i lythrennedd plentyn, a bod darllen gartref yn helpu plant i fwynhau darllen a gwneud yn well yn yr ysgol. Mae ein hymgyrch 'Mae addysg yn dechrau yn y cartref' hefyd yn annog rhieni i helpu plant i ddysgu gartref.
"Codi lefel llythrennedd yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac rydyn ni wedi cyflwyno pob math o bolisïau, gan gynnwys ein Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a phrofion darllen blynyddol er mwyn cyflawni hyn.
"Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod cynyddu sgiliau gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn allweddol i wella canlyniadau plant, yn enwedig y rheini sy'n byw mewn tlodi. Dyna pam rydyn ni'n datblygu rhaglen sy'n werth miliynau drwy Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd er mwyn darparu cymwysterau ar gyfer gweithlu'r blynyddoedd cynnar i lefel gradd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2015
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2014