Ateb y Galw: John Pierce Jones
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma John Pierce Jones sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan yr actores Rhian Morgan.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cerdded am y tro cynta mewn cae gwair yn Niwbwrch, Ynys Môn, ac fy nhaid yn curo ei ddwylo ac yn agor ei freichiau i fy nerbyn i.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Marilyn Monroe. Mi roedd 'na ffilmiau yn y pentra' bob nos Fawrth a nos Iau gyda'r Môn Mobile Cinema. Ffilm i blant yn gynta', a wedyn ffilmiau eraill yn hwyrach.
Ro'n i wrth fy modd efo Doris Day hefyd. Roedd hi'n actio mewn petha fel 'Calamity Jane', a dwi'n cofio meddwl mai gwraig fel 'na ro'n i ishio rhyw ddydd!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ro'n i'n blismon yn Nolgellau yn y 1960au, a bryd hynny roedd 'na fysiau double-decker yn cael eu defnyddio i fynd â gweithwyr o'r dre i Drawsfynydd a llefydd eraill. Roedd y bysiau 'ma'n cael eu cadw yn y maes parcio ar y Marian.
Un diwrnod nes i roi cymorth i fws ddod allan o'r Marian i'r ffordd fawr ar waelod y bont yn y dre. Ar ôl i mi stopio'r traffig, a chael dipyn o strach, fe lwyddodd y bys i ddod allan, mynd i dop y bont a throi i'r dde am gyfeiriad y Bala.
Heb i mi ddeall, mi roedd y bws yn cael ei ddwyn gan griw o fois o Fanceinion ac i ffwrdd a nhw... nes i ddim cyfaddef mod i 'di eu helpu nhw ar y pryd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mis Awst yn Wembley. Mi 'na'th Iwan fy mab sgorio yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Gynghrair Ysgolion Prydain - The Schools Challenge Cup. Yn y papurau dywedodd ambell i newyddiadurwr mai hwn oedd un o'r ceisiau gorau i'w sgorio yn Wembley.

Mae tîm Rygbi'r Gynghrair Ysgol Glantaf yn dipyn gwell 'na thîm pêl-droed Bryncoch!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, mae gen i lot fawr, allai sgwennu tua pum tudalen ohonyn nhw. Mi fyddai'r wraig yn dweud chwyrnu.
I ddweud gwir ro'ni'n actio efo Timothy Spall ar ffilm o'r enw 'Lucky Break' rhai blynyddoedd yn ôl. 'Na'th o fy nghlywed i'n chwyrnu rhywbryd a dweud mod i fel warthog yn chwyrnu.
Dwi hefyd yn un drwg am fwyta sothach - McDonalds, KFC... 'dwi wrth fy modd efo nhw.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn. Ges i fy magu yn agos i fanna ac mae 'na rywbeth arbennig am y lle. Fy ewythr oedd y peilot olaf yno. Ma'n le celtaidd, hudolus a dwi'n teimlo'n hun yn newid pan fydda i yno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn Port-au-Prince, Haiti, y noson gynta i Iwan fy mab aros gyda ni. Ro'n i wedi ei gyfarfod o o'r blaen, ond dwi'n cofio y noson gynta iddo aros gyda ni fel teulu. Mi roedd 'na ymladd tu allan, sŵn gynnau, ond roedda ni wrth ein boddau i gael Iwan yn ei bywydau yn barhaol.

John a'i fab, Iwan, yn paratoi i hwylio
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Styfnig. Caredig. Sentimental.
Beth yw dy hoff lyfr?
Dwi'n hoff iawn o lyfrau ditectif, ond dwi'n meddwl mai 'O law i law' 'di'n hoff lyfr i. Dwi'n cofio pan ro'n i tua 12 oed ac yn sâl, daeth mam â llyfr i mi, a do'n i ddim yn medru stopio'i darllen hi unwaith 'nes i ddechrau - y llyfr cynta' i mi ei ddarllen o glawr i glawr.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Mae genai bâr o sgidiau braf iawn, suede. Dwi 'di torri bodia'n nhraed felly ma'n anodd cael pâr o sgidiau cyfforddus, ond ma' rhain mor gyfforddus.
Mae 'na dipyn o stâd arnyn nhw bellach felly dwi'n trio cael gafael ar rhai tebyg ar y we - ond heb lwc hyd yma.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Dwi wrth fy modd efo ffilmiau yn ymwneud â'r Maffia, ac mi wel'is i 'Godfather 2' yn ddiweddar. Mae hi'n wych o ffilm ac mae Robert De Niro yn arbennig ynddi.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?
Rod Steiger. Roedd o'n actor gwych, ac yn digwydd bod roedd o'n foi eitha mawr hefyd sy'n helpu.

Arthur Picton a Wali Tomos cyn brwydr fawr Maes Dulyn?
Dy hoff albwm?
Dwy albwm y Beatles sy'n dod i'r amlwg yma. 'Hard Day's Night' am resymau sentimental - hon oedd y record gyntaf i mi ei phrynu. Ond mi fyswn i'n gorfod dewis 'Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band' oherwydd y miwsig, mai'n hollol wych.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Dwi'n foi pwdin, er mai anaml fydda i'n cael y dyddiau 'ma. Rhywbeth huefnog dwi'n ei fwynhau - eton mess, pavlova neu crème brûlée. Ond dim byd rhy iach efo gormod o ffrwythau.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Richard Branson, er mwyn i mi gael gweld am ddiwrnod sut beth ydi hi i gael gymaint o arian.

"Mae gynnon ni bres Tecwyn! Be am brynu'r boi bach Bale 'na o Real Madrid?"
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?
Huw Chiswell