Croesawu penderfyniad i wneud cyffur canser ar gael
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth symud i Loegr i gael cyffur trin canser wedi croesawu penderfyniad i wneud y cyffur hwnnw ar gael yng Nghymru.
Mi aeth Irfon Williams o Fangor, oedd yn dioddef o ganser y coluddun, dros y ffin i gael triniaeth â'r cyffur cetuximab.
Nawr mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y cyffur ar gael yng Nghymru.
Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Mr Williams, sydd bellach wedi gwella'n llwyr o ganser, fod hyn yn "newyddion gwych" i gleifion.
Cyngor newydd
Dydi cetuximab heb fod ar gael ar raddfa eang yng Nghymru ers 2009. Ond bydd y cyffur ar gael i drin canser y coluddun a'r rectwm wedi cyngor newydd gan Grŵp Strategaeth Meddigyniaethau Cymru Gyfan.
Mae Mr Williams yn rhan o elusen Hawl i Fyw, sy'n ymgyrchu wneud triniaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill ar gael yng Nghymru.
"Yn amlwg, mae hwn yn newyddion gwych i bobl yn y dyfodol sy'n mynd i fod yn dioddef o ganser y coluddun," meddai.
Mi ddywedodd fod y cyffur wedi bod yn effeithiol yn ei achos o.
"Roedd o wedi cael ei awgrymu gan arbenigwyr yn Lloegr 'mod i'n cael cetuximab, ac mi oedd 'na brofion yn dangos y buaswn i'n ymateb i'r cyffur," meddai.
"Ac wrth gwrs, dwi wedi ymateb i'r cyffur, ac wedi cael llawdriniaeth sydd wedi gweithio'n dda i fi oherwydd y cyffur yma."
Roedd 2015 yn flwyddyn galed i Mr Williams, ond mae'n dweud ei fod nawr yn gweld "golau ar ddiwedd y twnnel."
"Dwi'n teimlo'n reit dda, ond dal yn trio dod dros y llawdriniaeth - mi oedd hi'n lawdriniaeth reit hegar," meddai.
"Flwyddyn yn ôl, doeddwn i ddim yn gwybod ble fuaswn i - mi oedden nhw wedi dweud wrtha' i doedd 'na ddim byd y gallen nhw'i wneud.
"Ddaru nhw ddweud wrtha' i i fynd adra a mwynhau fy Nadolig.
"Wrth gwrs, mi wnes i fwynhau'r 'Dolig hwnnw, a'r 'Dolig dwi newydd ei gael rŵan - a llawer o Nadoligau i ddod, gobeithio."
'Diolchgar'
Mae Mr Williams yn ffyddiog fod ymgyrch Hawl i Fyw wedi dylanwadu ar benderfyniad y llywodraeth.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i'r pobl sy' wedi gweithio'n galed ar yr ymgyrch Hawl i Fyw," meddai.
"Mae'r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus dros ben - mi ddaru ni gyfarfod efo Carwyn Jones i drafod fy achos i'n benodol, a dwi'n gobeithio bod hynny wedi rhoi goleuni ar y mater iddo fo.
"Mi wnawn ni ddal i ymgyrchu a chefnogi pobl sydd angen bob math o driniaethau - mae hwn yn fater pwysig i bobl â bob math o afiechydon."
Ffeibrosis systig
Yn eu cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai'r cyffur ivacaftor ar gael i fwy o gleifion sy'n dioddef o ffeibrosis systig.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Yng Nghymru, mae'r holl feddyginiaethau sydd wedi'u cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddigyniaethau Cymru Gyfan ar gael yn gyffredinol yn y gwasanaeth iechyd.
"Yn dilyn y ddau argymhelliad cadarnhaol diweddar hyn gan y grŵp, mae'n bleser gen i gyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo defnyddio cetuximab fel triniaeth ar gyfer canser y colon a'r rhefr ac ivacaftor i drin ffeibrosis systig drwy'r gwasanaeth iechyd."