Swyddi dur: 'Ergyd ofnadwy'

  • Cyhoeddwyd
Gwaith dur Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Y safle dur ym Mhort Talbot

Roedd 'na ddisgwyl newyddion gwael dros y penwythnos o ran dyfodol rhai oedd yn gweithio i gwmni Tata. Ddydd Llun fe ddaeth cadarnhad.

Wrth i gymylau tywyll ffurfio uwchben gwaith dur Port Talbot, daeth y newyddion bod y cwmni'n cael gwared ar ryw 750 o swyddi ar draws Cymru.

Ry'n ni'n gwybod bod hi'n gyfnod anodd i'r diwydiant dur yn rhyngwladol. 'Nôl ddiwedd y llynedd fe wnaeth cwmni SSI gyhoeddi eu bod yn cau eu safle yn Redcar - gyda dros 2,000 o swyddi'n diflannu.

Wedyn fe aeth cwmni dur Caparo i ddwylo'r gweinyddwyr, gan roi dros 1,500 o swyddi mewn peryg. A nawr cwmni Tata.

Ac er y newyddion ry'n ni'n clywed o safleoedd dur eraill ar draws Prydain, mae effaith toriadau swyddi mor fawr â hyn yn eich taro chi pan maen nhw'n digwydd yn agosach at gartre'.

Lan yng Nghwmafan mae Rod Williams yn byw. Wedi gweithio yn y diwydiant dur ers 40 mlynedd cyn gadael y gwaith ym Mhort Talbot yn 2002, mae e wedi gweld nifer o doriadau o fewn y diwydiant dros y blynyddoedd.

"Ma' hwn wedi bod yn mynd 'mlan ers blynydde - nid dyma'r tro cynta' ma' hyn yn digwydd nawr. Dechreues i weithio yn y gwaith dur 'nôl yn 1962 a trw'r holl adeg o'n i 'na - lan nes bod hi'n 2002 - o'dd y toriadau hyn yn cael eu gwneud yn ara' deg, a ma' nhw wedi para i fynd achos dylanwad cwmnïoedd eraill.

Effaith pell-gyrhaeddol

Rod Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rod Williams

"Mae'r rhan fwya' o nhw tu allan i'r wlad hyn, fel India a Mecsico, ma' nhw wedi dechre cynhyrchu dur eu hunain lle cyn 'ny o'n nhw'n prynu wrtho ni. Ma' hwnnw wedi gorffen ers oesoedd."

Yn ôl Rod, ma' colli 750 o swyddi'n mynd i gael effaith ar ardal mwy o faint na dim ond Port Talbot.

"Bydd rhai yn byw yn Llanelli falle, neu'r cymoedd rownd Port Talbot a byddan nhw'n cal peth o'r problemau hyn achos ma' diswyddo yn ca'l dylanwad ar eu hardal nhw.

"Bydd e'n anodd i ddweud faint o ddylanwad bydd e. Ond allwch chi ddychmygu pan ma' 750 o bobl yn ddiwaith, bydd llai o arian gyda nhw, byddan nhw'n gwario llai o arian.

"Ble bynnag ma' nhw'n byw ac yn 'neud eu siopa a beth bynnag ma' nhw'n 'neud â'u harian fel arfer, bydd llai 'da nhw i wario a ma' hwnna bownd o ca'l dylanwad ar eu hardal nhw."

Wrth gerdded trwy Gwmafan fe gwrddes i â Nerys James, ac roedd hi'n poeni am effaith y newyddion yma ar ffrindiau a'r gymuned.

"Dwi'n 'nabod rhai sy'n gweithio yn Tata Steel," meddai "a 'smo fe'n rhy dda pan ma' pobol yn colli gwaith, a bydd e'n cal effaith ar yr ardal achos bydd llai o arian yn cael ei wario."

'Nôl lawr y cwm i Bort Talbot ei hun, ac i Gapel Carmel - lle maen 'na fanc bwyd. Un o'r rhai sy'n helpu gyda'r trefnu yw Margaret Jones, ac mae hi'n gofidio am les y dre a'r rhai sy'n byw ynddi.

"Dwi'n dal i ofyn a yw e'n wir a dweud y gwir. A ydw i wedi dihuno yng nghanol nôs a taw hunllef yw e. Achos ma'n anodd dychmygu Port Talbot heb waith dur, ac ma'n edrych taw fel'na i ni'n mynd."

Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Anobaith

"Ma' 'na broblem fawr yn y dre' hon gyda dynion canol oed yn cymryd eu bywydau eu hunen."

"Os edrychwch chi ar yr ystadegau, ma' Port Talbot yn fwy amlwg am y pethau hyn. A dyna un o'r rhesymau, y rheswm penna' falle pam bod dynion canol oed yn dod i deimlo bod e ddim gwerth byw rhagor yw'r ffaith bod dim swyddi gyda nhw, bod nhw ddim yn ennill arian, a bod nhw ddim yn gallu cynnal eu teuluoedd, ac ma' nhw'n teimlo'n ddiwerth."

"Ma hi'n anodd credu y gallwn ni ddod 'nôl i ble o'n ni ar ôl yr ergyd ofnadwy yma."

O siarad â rhai o drigolion yr ardal mae hi'n anodd gweld y golau trwy'r cymylau sy'n hedfan uwchben Port Talbot ar hyn o bryd, ac mae 'na alw cryf am help i atal pethau rhag gwaethygu.