Ffugio damweiniau: Cwmnïau yswiriant 'ddim yn gwneud digon'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

DCI Richard Williams o Heddlu Gwent sy'n disgrifio sut oedd y criw yn gwneud arian o'r damweiniau

Mae'r heddlu wedi dweud nad yw cwmnïau yswiriant yn gwneud digon i atal twyllo drwy ffugio damweiniau.

Mae Heddlu Gwent - fu'n ymchwilio i'r twyll mwyaf erioed o'r math yma - yn dweud os fyddai cwmnïau yswiriant yn edrych yn fwy gofalus ar geisiadau cwsmeriaid y gallan nhw leihau twyll sy'n costio £340m y flwyddyn i'r diwydiant.

Bu rhaglen Week In Week Out BBC Cymru yn dilyn y cyfan.

Ar ddiwedd ymchwiliad pedair blynedd, fe lwyddodd Heddlu Gwent i erlyn dros 80 o bobl fu'n rhan o dwyll sy'n cael ei adnabod fel Crash for Cash.

Roedd y twyll yn ymwneud ag o leia' 70 o ddamweiniau ffug a drefnwyd yn bennaf gan un teulu yn y Coed Duon ger Caerffili.

Bydd yr olaf o'r diffynyddion yn cael eu dedfrydu'r wythnos nesaf.

'Angen tystiolaeth glir'

PC Chris Goddard o Heddlu Gwent fu'n ymchwilio i ddilysrwydd y damweiniau drwy gymharu lluniau o'r cerbydau a gafwyd gan y cwmnïau yswiriant.

Sylweddolodd na allai'r difrod fod wedi digwydd yn y modd y disgrifiwyd, a dywedodd y gallai'r cwmnïau yswiriant fod wedi canfod y twyll drwy gael un peiriannydd i edrych ar y ddau gerbyd oedd mewn gwrthdrawiad honedig.

"Dydyn nhw ddim yn edrych ar y digwyddiad yn ei gyfanrwydd," meddai.

"Mae'n hawdd dweud bod dau gerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad, ond fe ddylai fod tystiolaeth glir i ddangos bod hynny wedi digwydd.

"Ar hyn o bryd, mae un cwmni yswiriant yn edrych ar un cerbyd yn unig a chwmni arall yn edrych ar y llall a dydyn nhw ddim yn cyfnewid gwybodaeth sy'n gyffredin i'r ddau."

Disgrifiad o’r llun,

(chwith i'r dde): Carcharwyd Peter Yandell am chwe blynedd, Michelle Yandell am ddwy flynedd, Byron Yandell am chwe blynedd, Rachel Yandell a Gavin Yandell am dair blynedd

Ymateb cwmni yswiriant

Roedd cwmni yswiriant Admiral o Gaerdydd yn un o'r cwmnïau gafodd eu twyllo.

Dywedodd pennaeth twyll y cwmni, Sue Evans, wrth Week In Week Out bod y pwynt yn un da a bod y cwmni'n ceisio'i ateb.

"Fe fyddai peth tystiolaeth weithiau na fyddai'n dod i'r amlwg oherwydd bod dau bâr o lygaid yn edrych arno," meddai.

"Ond ein nod bob tro yw cael un peiriannydd i edrych ar y ddau adroddiad a cheisio cysoni'r ddau gyda'i gilydd.

"Rwy'n credu ein bod ni wastad wedi edrych i wneud hynny, ond yn fasnachol weithiau dyw hynny ddim yn bosibl."

Colli ffydd

Mae'r rhaglen yn edrych yn benodol ar achos Jane Lawrence o Lanbradach. Cafodd hi ei thwyllo pan fu mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili.

Drwy ddefnyddio tyst ffug, fe wnaeth y twyllwyr lwyddo i roi'r bai am y gwrthdrawiad ar Ms Lawrence, er nad oedd bai arni o gwbl.

Dywedodd ei bod wedi colli ffydd mewn cwmnïau yswiriant, ac na fyddai ganddi bolisi o gwbl oni bai bod hynny'n orfodol dan y gyfraith.

Cafodd Stephanie Barwood - y fenyw a darodd gar Ms Lawrence - ei charcharu am dair blynedd am ei rhan yn y twyll, ac fe gafodd y tyst ffug William Veall ei garcharu am dair blynedd a thri mis.

Cafwyd bron bob un o'r 87 o bobl arestiwyd gan Heddlu Gwent fel rhan o'r ymchwiliad yn euog o fod yn rhan o'r twyll, ac mae'r heddlu'n credu bod y cyfan wedi costio tua £2m i'r diwydiant yswiriant.

Week In Week Out: The Great Car Crash Con, BBC One Wales, 21:00 nos Wener, 22 Ionawr.