Marwolaeth Dylan Seabridge: Pryder am addysg gartref

  • Cyhoeddwyd
Sgyrfi Ail Greu

Mae galwadau wedi eu gwneud i sefydlu cofrestr orfodol i blant sy'n cael addysg gartref ar ôl i fachgen wyth oed oedd heb gael cyswllt gyda'r awdurdodau farw o sgyrfi.

Fe ddywed adroddiad drafft i farwolaeth Dylan Seabridge, fu farw yn Sir Benfro yn 2011, ei fod yn "anweledig" i'r awdurdodau am ei fod yn derbyn addysg gartref.

Yn ôl Comisiynydd Plant, Sally Holland dylai rhieni arwyddo cofrestr yn datgan eu bod yn rhoi addysg gartref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cyhoeddi canllawiau ar y pwnc yn fuan.

Mae BBC Cymru wedi gweld drafft o Adolygiad Achos Difrifol i farwolaeth Dylan gafodd ei ysgrifennu yn 2013, sy'n dod i'r casgliad bod angen cryfhau y deddfau sy'n ymwneud ag addysgu gartref yng Nghymru ar frys.

Cofrestr

Dywedodd Ms Holland ei bod yn hawl i bob rhiant i roi addysg gartref i'w plentyn, ond roedd hi'n bryderus bod rhai plant yn "llithro o dan y radar".

Ychwanegodd y byddai cofrestr orfodol ar gyfer addysg gartref a chyfarfodydd cyson gydag arbenigwr addysg yn rhoi'r rhyddid i rieni i ddarparu'r addysg y maen nhw eisiau, tra hefyd yn gadael i awdurdodau lleol roi cymorth pan fo angen.

"Dydw i ddim yn meddwl bod addysg gartref ynddo'i hun yn bryder o ran diogelwch plant ond dy'n ni fel cymdeithas angen cadw llygad ar holl blant ein cymuned," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd rieni Dylan, Julie a Glynn, eu herlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron

Mae'r elusen amddiffyn plant, NSPCC Cymru wedi cefnogi'r syniad o gofrestr ers peth amser.

"Mae gan bob teulu'r hawl i ddewis sut i roi addysg i blentyn a dydi addysg gartref ar ei ben ei hun ddim yn ffactor ar gyfer cam-drin neu esgeulustod, ond mae hi'n bwysig sicrhau nad ydyn nhw'n disgyn oddi ar radar awdurdodau lleol," meddai llefarydd.

"Ry'n ni'n gwybod bod y mwyafrif llethol o rieni eisiau awyrgylch addysg ddiogel ar gyfer eu plant.

"Byddai cofrestr yn helpu sicrhau mai dyma'r achos ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn addysg gartref."

Rôl awdurdodau iechyd

Dywedodd Bev Carr, sy'n darparu addysg gartref yn Aberhonddu ym Mhowys, mai'r unig rôl sydd gan yr awdurdodau yn addysg ei mab yw un llythyr pob blwyddyn.

Ychwanegodd nad oes ganddi wrthwynebiad i gofrestr pe bai'n cael ei ariannu'n gywir ac yn profi'n "fwy o help nag o rwystr".

Yn siarad ar raglen Good Morning Wales BBC Radio Wales, dywedodd Ms Carr bod angen i awdurdodau iechyd chwarae rôl yr un mor flaenllaw ag awdurdodau addysg yn y broses o addysg gartref.

Galwodd hefyd am nawdd ar gyfer byw yn iach, fel annog plant sy'n derbyn addysg gartref i ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon.