Cartref newydd i'r heddlu yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Oriel Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr orsaf newydd wedi ei leoli ar safle Oriel Wrecsam

Mae disgwyl i gynghorwyr gymeradwyo cynlluniau ddydd Llun i addasu oriel gelf yn gartref newydd i orsaf yr heddlu yn Wrecsam.

Bydd yr orsaf bresennol yng nghanol y dre yn cael ei dymchwel.

Fe fydd yr orsaf newydd yn rhan o lyfrgell y dre.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys codi estyniad i adeilad yr Oriel.

Ar 4 Ionawr penderfynodd cynghorwyr oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol oherwydd pryderon ynglŷn â llefydd parcio i'r anabl.

Mae'r Oriel Gelf wedi ei symud i leoliad arall dros dro gyda'r Cyngor yn bwriadu gwario £4.5 miliwn ar godi canolfan gelfyddydau newydd.