Ghazalaw: Enwebiad am wobr werin

  • Cyhoeddwyd
GhazalawFfynhonnell y llun, Guru Dhanoa

Mae un o ganeuon Ghazalaw wedi ei henwebu yng ngwobrau gwerin BBC Radio 2.

Mae'r gân 'Moliannwn' wedi ei henwebu yng nghategori'r trac traddodiadol gorau.

Mae prosiect Ghazalaw yn gydweithrediad rhwng y gantores a'r gyfansoddwraig Gwyneth Glyn a'r canwr Tauseef Akhtar o Mumbai. Mae'n cael ei ddisgrifio fel dathliad o'r berthynas rhwng canu Ghazal Indiaidd a'r traddodiad gwerin Cymreig.

Mewn cyfweliad ar Raglen Dylan ar BBC Radio Cymru, dywedodd Gwyneth Glyn ei bod wrth ei bodd a'r enwebiad: "Roedd hi'n sioc aruthrol i ni gyd, doedd neb yn disgwyl ffasiwn beth ac mae hynny wastad yn beth braf - cael eich siomi o'r ochr orau.

"Ddaru nhw gyhoeddi'r peth neithiwr ar y radio, ac mae'r ymateb a'r gefnogaeth ers hynny wedi bod yn syfrdanol."

Ffynhonnell y llun, Eric Van Nieuwland
Disgrifiad o’r llun,

Ghazalaw yn perfformio yng ngŵyl WOMEX13 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd

Cafodd y gân ei pherfformio gan Ghazalaw yng nghyngerdd agoriadol WOMEX yng Nghaerdydd yn 2103.

"Mae rhywbeth yn llawen iawn am y gân," meddai Gwyneth, "felly gobeithio y bydd hi'n codi calonnau pobl o leia'.

"Mae 'na wahoddiad i ni, dwi'n meddwl, i'r Albert Hall ddiwedd mis Ebrill i'r seremoni. Fyddwn ni ddim yn cael gwybod dim byd tan mae'r cyhoeddiad yn cael ei wneud o'r llwyfan, ond dydyn ni ddim yn disgwyl ennill.

"Mae jest cael ein henwebu yn rhyfeddod ac yn braf iawn."

Roedd yna lwyddiant i grŵp o Gymru yn y gwobrau gwerin y llynedd, pan enillodd 9Bach y wobr am yr albwm orau.

Ffynhonnell y llun, 9Bach