Arbedion £5m Gwynedd: Gohirio toriadau celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cyngor

Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gohirio toriadau i'r celfyddydau yn y sir, er bod angen i gynghorwyr wneud toriadau o £5m.

Mewn cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth, fe wnaeth cynghorwyr hefyd benderfynu i ohirio toriadau i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfed Edwards, ei fod wedi derbyn llythyrau o "John O'Groats i Land's End" yn gwrthwynebu'r cynllun.

Er hynny, mae disgwyl i'r cyngor llawn gymeradwyo cynnydd mewn treth cyngor mewn cyfarfod fis nesaf.

Ariannu tymor hir

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dyfed Edwards na fyddai modd i'r cyngor ariannu Amgueddfa Lloyd George yn y tymor hir

Roedd adroddiad i'r cabinet yn argymell lleihau gwariant ar gamerâu cylch cyfyng, ac yn gofyn i gynghorwyr ystyried cynyddu cost cinio ysgol, ond hynny'n gynnydd llai na'r cynllun gwreiddiol wedi ymgynghoriad.

Fe wnaeth y cynghorwyr hefyd drafod lleihau gwariant ar y celfyddydau fyddai wedi golygu cau Amgueddfa Lloyd George.

Pwysleisiodd Mr Edwards na fyddai modd i'r cyngor ariannu'r amgueddfa yn y tymor hir, ond cafodd y penderfyniad terfynol ei ohirio tan Ebrill 2017.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y cyngor y byddai'r adroddiad i'r cyngor llawn yn argymell:

  • Gweithredu toriadau gwasanaethau o £4,590,000;

  • Torri cyllideb ffyrdd £850,000;

  • Cynyddu Treth Cyngor o 3.97% yn hytrach na'r bwriad gwreiddiol o 3.5%.

Dywedodd Mr Edwards mai'r "peth diwethaf y byddai'r un ohonom fel cynghorwyr yn awyddus ei wneud fyddai torri gwasanaethau" ond bod yr argymhellion yma "yn taro cydbwysedd orau" rhwng gwarchod gwasanaethau ac effaith cynnydd treth cyngor.

Ychwanegodd: "Mae'r gyllideb yma yn darparu cyfle i ystyried dyfodol rhai gwasanaethau fel Neuadd Dwyfor ac Amgueddfa Lloyd George er enghraifft, yn ogystal â chynnig cyfle i gymunedau ddod ymlaen gyda chynigion i ni ystyried ynglŷn â gwasanaethau yn eu hardaloedd."

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn ar 3 Mawrth.