Achub Neuadd Dwyfor: Deiseb 7,000 o enwau

  • Cyhoeddwyd
neuadd dwyfor

Bydd cynghorydd o Wynedd yn cyflwyno deiseb gyda bron i 7,000 o enwau arni i'r cyngor mewn ymgais i gadw canolfan gelfyddydol ar agor.

Bydd y cynghorydd Michael Sol Owen yn cyflwyno'r ddeiseb i gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth yn galw i dynnu Neuadd Dwyfor oddi ar restr o doriadau ariannol y cyngor.

Mae'r neuadd ym Mhwllheli - sy'n gartref i sinema, cynyrchiadau theatr yn ogystal â llyfrgell a gwybodaeth i dwristiaid - wedi ei chynnwys ar restr ddrafft o wasanaethau posib y gellid eu torri wrth i Gyngor Gwynedd fynd i'r afael â diffyg o £5m yn y sir dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd cynghorydd gogledd Pwllheli, Mr Owen: "Ers i'r bygythiad o gau Neuadd Dwyfor gael ei gyhoeddi, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn syfrdanol.

"Mae bron i 7,000 o lofnodion wedi eu derbyn, dros 5,200 yn lleol yn y dref a thros 1,400 ar-lein mewn llai na phythefnos. Mae'r gefnogaeth wedi dod o bob rhan o Wynedd yn ogystal â thu hwnt.

'Neges glir'

"Gyda phedwar gwasanaeth lleol o fewn y neuadd - y theatr, sinema, llyfrgell a safle Gwybodaeth Twristiaeth - mae defnydd helaeth i'r neuadd gan drethdalwyr Gwynedd ac ymwelwyr," meddai Mr Owen.

"Mae neges glir yma bod angen cadw Neuadd Dwyfor ar agor.

"Mae'r trafodaethau rydw i wedi eu cael gyda'm cyd-gynghorwyr Plaid Cymru a'r cabinet yn edrych yn gadarnhaol, ond yn lleol, byddai gennym lawer o waith i'w wneud o fewn y gymuned i chwilio am ateb tymor hir i'r her ariannol sy'n ein hwynebu oherwydd y toriadau llym sy'n parhau gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan."

Unwaith bydd Cabinet Gwynedd yn cynnig pa wasanaethau i'w torri, bydd y 75 o gynghorwyr yn cael cyfle i ystyried yr holl ymatebion gafodd eu derbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn y cyfarfod cyngor llawn nesaf.

Mae adroddiad ar y strategaeth ariannol, fydd yn cynnwys rhestr derfynol o doriadau gwasanaeth arfaethedig, yn mynd gerbron y cyngor i wneud penderfyniad terfynol ar 3 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:

"Mae oddeutu tri chwarter yr arian mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn i dalu am wasanaethau lleol yn dod o lywodraeth ganolog ar ffurf grant. Mae'r ffaith fod y grant honno yn cael ei thorri yn gyson yn golygu nad oes gennym unrhyw ddewis bellach ond ystyried gweithredu toriadau fel y gallwn fforddio i dalu am wasanaethau lleol allweddol. Yn hyn o beth, mae Cyngor Gwynedd yn yr un sefyllfa â chynghorau ledled Cymru.

"Yn ystod mis Ionawr, bu cynghorwyr Gwynedd yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ymarferiad ymgynghori gynhwysfawr 'Her Gwynedd' ar 118 o opsiynau posib ar gyfer toriadau i wasanaethau ar draws holl adrannau'r Cyngor. Yn dilyn y gwaith yma mae'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor heddiw, yn argymell na ddylid cynnwys opsiwn i gau Neuadd Dwyfor yn y toriadau i'w gweithredu, ac yn argymell 'y dylid gofyn i'r gwasanaeth drafod opsiynau ar gyfer unrhyw fudiad lleol gymryd cyfrifoldeb amdano gyda'r nod o leihau'r costau sy'n syrthio ar drethdalwyr Gwynedd gan ddisgwyl adroddiad yn ol ymhen blwyddyn ac y dylid ail ymweld wedyn yn sgil yr ymateb lleol."

"Fel rhan o'r broses o wireddu toriadau, mae'r Cyngor wedi clustnodi swyddog i gydweithio gydag unrhyw sefydliadau lleol neu gyrff allanol a fyddai o bosib mewn sefyllfa i gymryd cyfrifoldeb am wasanaethau i'r dyfodol."