Canu, y Gymraeg ac Andy Warhol
- Cyhoeddwyd
Bydd John Cale, un o sylfaenwyr band eiconig The Velvet Underground ymhlith y perfformwyr yng Ngŵyl y Llais fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.
Roedd the Velvets yn elfen ganolog yn stiwdio enwog 'The Factory' yn Efrog Newydd a oedd yn ganolbwynt i chwyldro celfyddydol ysgwydodd y byd.
Am gyfnod ynghanol y 60au, roedd y Cymro Cymraeg o'r Garnant ymhlith yr artistiaid roddodd lwyfan i gelfyddyd weledol 'pop art' Andy Warhol.
Gwrandewch ar sgwrs John Cale gyda Huw Stephens ar C2 Radio Cymru
Ond sut daeth mab swil i löwr yn ffigwr mor ddylanwadol?
Cymraeg, iaith y cartref
"Mam-gu oedd yn rheoli yn tŷ ni," meddai'r cerddor. "Do'dd hi ddim yn hapus fod mam wedi priodi glöwr di-addysg a do'dd ddim yn siarad Cymraeg.
"Ro'dd hi'n sefyllfa anghyffordus ar brydiau gan mai dim ond Cymraeg ro'n i a mam yn siarad. Ro'dd siarad 'da fy nhad yn anodd. Ro'n i yn ei chael hi'n haws rywsut i gyfathrebu trwy gerddoriaeth.
"Roedd llyfrgell y glöwyr yn y pentre yn bwysig i mi. Trwy archebu llyfrau a cherddoriaeth yno de's i wybod fwy am yr avant garde yn America - am ffigyrau fel John Cage a La Monte Young."
Ac yna daeth trobwynt yn mywyd y cerddor ifanc pan ddaeth y BBC i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman:
"Ro'dd y BBC ar y pryd yn ceisio rhoi sylw i dalent lleol ac ro'n nhw wedi clywed fy mod i wedi cyfansoddi darn i'r piano.
"Mi 'naethon nhw ofyn am y sgôr, ond doedd e ddim i'w gael. Felly ar ôl chwysu cryn dipyn es i ati i berfformio'r darn yn fyrfyfyr.
"Wnes i ryfeddu fy hun da'r hyn ro'n i wedi ei gyflawni. Daeth perfformio'n fyrfyfyr yn rhan ganolog i fy ngwaith i yn nes 'mlaen."
Yr 'avant garde' a'r Velvet Undeground
Enillodd John Cale ysgoloriaeth i astudio cyfansoddi yng ngholeg Tanglewood yn Massachussets cyn symud i Efrog Newydd a dod i gysylltiad gyda Le Monte Young, un o hoelion wyth y symudiad avant garde.
Trwy'r diwylliant celfyddydol tanddaearol daeth i gysylltiad gyda Lou Reed a ffurfio'r Velvet Underground.
"Ro'dd Lou yn fardd i flaenau ei fysedd ac yn gallu sgwennu cerdd am beth wnaeth e yn y caffi yn ystod y bore," meddai Cale mewn cyfweliad gyda rhaglen HARDtalk y BBC.
"Roedden ni'n gallu cydweithio yn iawn am gyfnod er ei bod hi'n anodd ar brydiau i mi gan fy mod i wedi bod yn gwneud cymaint o bethau byrfyfyr gyda Le Monte Young. Ro'dd angen mwy o ddisgyblaeth i lunio caneuon ar gyfer y Velvets.
"Pan naethon ni 'Venus in Furs' ro'n i'n gw'bod bod ganddom ni rywbeth arbennig o ran trefniant caneuon. Y bwriad oedd cael Lou i ganu'r caneuon yn fyrfyfyr.
"Doedden ni ddim yn meddwl am recordio'r caneuon, jyst gwneud cyngherddau gwahanol a chyfansoddi caneuon newydd drwy'r amser."
Roedd y Velvet Underground yn ymarfer ac yn perfformio yn 'The Factory', yr adeilad sy'n cael ei gysylltu gydag Andy Warhol, a daeth yr artist yn reolwr arnyn nhw.
"Ro'dd Andy yn svengali... o flaen ei amser gyda syniadau masanachol," eglurodd Cale. "Doedden ni ddim yn gwybod beth o'dd yn mynd 'mlaen yn aml iawn.
"Ro'n i'n gallu cerdded i mewn i'r Factory. Ro'dd na artistiaid ar y llawr yn paentio sgriniau silc, a phobl yn ffilmio. Y peth pwysig i ni oedd bod ganddom ni le i chwarae."
Y sac i Andy Warhol
Er bod y Velvet Underground yn cael eu cydnabod fel un o fandiau mwyaf dylanwadol y 60au wnaethon nhw ddim gwerthu llawer o recordiau ar y pryd:
"Roedden ni'n llawer mwy poblogaidd yn Ewrop nag oedden ni yn America, ond wedi dweud hynny do'n i ddim eisiau bod yn seren bop byd-eang. Y syniadau oedd yn bwysig i mi a chymryd risgs. Daeth y band i ben o fewn tair blynedd.
"Rhoddodd Lou y sac i Andy fel rheolwr ac roedd hi'n amlwg fod y pwyslais yn mynd i fod ar greu recordiau poblogaidd. Roedd Lou yn awyddus i sgwennu caneuon 'neis' a gwerthu mwy o recordiau, felly wnaethon ni anghytuno.
"Roedd e'n sioc ar y pryd ond penderfynias i fod yn gynhyrchydd."
Mae John Cale wedi cynhyrchu nifer o artistiaid gwahanol gan gynnwys Happy Mondays, Patti Smith a The Stooges.
"Roedd 'na gyfnodau tywyll iawn ar ôl i'r Velvets wahanu. Ro'n i'n cymryd gormod o gyffuriau. Roedd bron pawb oedd yn rhan o'r sin gelfyddydol yn Efrog Newydd yn arbrofi gyda phob math o sylweddau a thabledi.
"Nes i benderfynu rhoi'r gorau iddi hi'n llwyr pan gafiodd fy merch ei geni a nes i ddechrau byw bywyd iachach a cheisio meistrioli sboncen er enghraifft."
Cymeriadau wedi eu caethiwo
Mae John Cale newydd ail-gyhoeddi ei albwm arbrofol 'Music for a New Society (1982)' - albwm arloesol ac un y mae'n cydnabod sy'n anodd iawn gwrando arni mewn sawl ffordd.
Wrth ei thrafod gyda Huw Stephens ar C2 BBC Radio Cymru mewn cyfweliad newydd arbennig, meddai:
"Mae'r record wreiddiol yn fyrfyfyr a mae pob un o'r cymeriadau yn y caneuon wedi eu caethiwo, allen nhw ddim ffoi, felly dyna pam mae hi'n boenus iawn mewn rhai mannau.
"Do'n i ddim eisiau cynhyrchu rhywbeth confensiynol - ro'n i yn fwriadol am recordio yn y cywair anghywir a gyda recordiad newydd M:FANS do'n i ddim am greu fersiwn mwy sgleiniog o'r gwreiddiol.
"Beth sydd ar y record yw cymeriad sy'n sôn am y pwysau sydd arno i ddod o hyd i'w hunaniaeth. Beth sy'n galonogol yw fod y cymeriadau ar y record wedi goroesi'r profiadau tywyll a bod ganddyn nhw ddigon o galon ynddyn nhw i gadw'r ysbryd yn fyw.
"Rwy' wedi bod drwy'r cyfnodau yna ble chi'n meddwl does dim pwynt, ond does dim byd gwaeth na sefyll o flaen drych pan yn eich arddegau gyda rasal yn agos at eich gwddf."
Cyfeirio yn fan hyn mae'r cerddor at ei blentyndod pan gafodd o ei gamdrin yn rhywiol.
"Doedd dim gwaeth na hynny," ychwanegodd. "Do'n i ddim yn gallu siarad 'da fy rhieni, doedd gen i ddim ffrinidiau, doedd dim diddordeb 'da neb."
Nôl at y gwreiddiau Cymreig
Ond er gwaetha' ei brofiadau yn blentyn, mae John Cale yn falch o'i wreiddiau Cymreig:
"Mae gen i deulu yng Nghrymych a byddai'n dod 'nôl i'w gweld pob cyfle y ga'i. Bues i ym Mhatagonia yn ddiweddar ac roedd 'na 5,000 o bobl yno mewn 'steddfod. Ro'dd Cymraeg llawer ohonyn nhw'n well 'na fy iaith i!"
Beth felly am y dyfodol? Beth sydd gan John Cale i'w gynnig i'r byd cerddorol?
"Dwi'n dal eisiau gweithio yn y Gymraeg," meddai. "Mi neith hi gymryd sbel i mi gael fy mhen rownd hynny, ond rwy'n benderfynol o'i wneud e.
"Mae gen i syniad am ddeialog rhwng mam a'i mab gyda chôr yn y cefndir. Mae'r gân yn egluro'r berthynas rhwng y ddau a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw."
Mae'r cyfansoddwr yn 74 eleni ond does dim awgrym ei fod am roi'r gorau i gyfansoddi er fod ei hen gyfeillion Lou Reed a David Bowie bellach wedi marw.
"Roedd hi'n siom clywed am Lou. Do'n i ddim yn deall pam ei fod wedi mynd yn ôl i yfed. Er bod ganddom ni wahaniaethau roedd gen i barch mawr tuag at ei waith.
"Rwy'n cofio tynnu coes David a'i alw yn 'Dai Jones'. Ro'n i'n gofyn iddo fe yn fy acen Gymreig orau: 'Ble 'ni'n mynd heno 'te Dai Jones?'. Mae yntau'n golled fawr."
"Rwy'n cael fy ysbrydoli o hyd. Rwy'n mwynhau cerddoriaeth hip-hop a rap, cerddoriaeth amrwd y stryd sy'n cael ei gynhyrchu yn Georgia.
"Fy nghyngor i i fandiau newydd yw glynnwch at eich egwyddorion, dewch o hyd i'r ffordd orau i gyflawni eich amcanion, peidiwich â chynhyrfu a daliwch i ganu!"
(Mae'r erthygl yn seiliedig ar gyfweliadau John Cale gyda Huw Stephens ar gyfer C2 BBC Radio Cymru a sgwrs gafodd y canwr gyda Stephen Sackur yng nghyfres HARDtalk)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2016