Is-deitlau Saesneg otomatig ar S4C yn 'gam gwag'

  • Cyhoeddwyd
s4cFfynhonnell y llun, S4C

Mae S4C wedi cael ei feirniadu yn dilyn ei gyhoeddiad i ddangos rhai o raglenni mwyaf poblogaidd y sianel ag is-deitlau Saesneg yn otomatig ar y sgrin yr wythnos nesa'.

Ni fydd yn bosib troi'r is-deitlau ffwrdd, meddai'r sianel, gan nad yw'r dechnoleg yn caniatáu hynny.

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith "cam gwag" yw bwriad S4C i "orfodi is-deitlau uniaith Saesneg ar eu holl wylwyr", gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "annerbyniol".

Mae S4C yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth is-deitlo dros bum diwrnod mewn ymgyrch i annog y di-Gymraeg a'r siaradwyr llai rhugl i wylio'r sianel.

Bydd yr is-deitlau i'w gweld yn ystod yr oriau brig, gan gynnwys ar raglenni fel Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Celwydd Noeth.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth un o gyn swyddogion y sianel, Tweli Griffiths, awgrymu y dylai S4C ddarparu is-deitlau Saesneg ar y sgrin yn otomatig.

'Gorfodi is-deitlau'

"Wrth gwrs fod angen codi ymwybyddiaeth o wasanaethau megis is-deitlau, ac atynnu rhagor o wylwyr o bob cefndir at raglenni Cymraeg - ond mae cwestiynau difrifol i'w hateb ynglŷn â'r cynllun yma," meddai Curon Davies, llefarydd materion digidol Cymdeithas yr Iaith.

"Cam gwag yw bwriad y sianel i orfodi is-deitlau uniaith Saesneg ar eu holl wylwyr yr wythnos nesaf, ac os nad oes modd eu diffodd er mwyn mwynhau'r rhaglenni hyn yn Gymraeg, mae'n gwbl annerbyniol."

Ychwanegodd: "Cyn hyrwyddo is-deitlau Saesneg, dylai rheolwyr y sianel fynd ati ar frys i sicrhau bod rhagor o is-deitlau Cymraeg ar gael, er lles dysgwyr, pobl sydd â nam ar eu clyw, ac er mwyn cyflawni eu nod o ddarparu Gwasanaeth Cymraeg. Ble mae'r is-deitlau Cymraeg ar gyfer y rhaglenni hyn?"

'Cyrraedd cartrefi cymysg ei hiaith'

Y prif reswm pam nad yw pobl yn gwylio S4C yw oherwydd diffyg "hyder yn eu hiaith neu am nad ydyn nhw'n gallu deall Cymraeg o gwbl", meddai prif weithredwr y sianel.

Dywedodd Ian Jones hefyd nad yw rhai gwylwyr yn sylweddoli fod "isdeitlau ar gael i'w helpu i wylio y rhan fwyaf" o'r rhaglenni.

"Drwy godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth is-deitlo, rydym yn estyn at siaradwyr llai rhugl a gwylwyr di-Gymraeg," meddai.

"Hefyd rydyn am gyrraedd cartrefi cymysg ei hiaith ble mae un neu sawl aelod o'r teulu ddim yn deall Cymraeg.

"Mae is-deitlau yn golygu fod pawb yn y tŷ yn gallu gwylio S4C gyda'i gilydd ac yn agor y drws i'r Gymraeg yn y cartref."