S4C a'r ddadl am is-deitlau Saesneg
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma mae S4C yn dangos rhai o'u rhaglenni gydag is-deitlau Saesneg sy'n ymddangos yn otomatig - gan arwain at ymateb chwyrn ymysg rhai.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cwyn swyddogol i Ofcom yn dilyn ymgyrch ddiweddaraf y sianel i geisio gwneud mwy o wylwyr yn ymwybodol fod is-deitlau ar gael.
Mae'n debyg mai'r ffaith nad yw'n bosib diffodd yr is-deitlau am bum diwrnod sydd wedi gwylltio rhai, tra bod Cymdeithas yr Iaith hefyd yn poeni fod S4C yn "gosod cynsail peryglus" o ran eu darpariaeth yn y dyfodol.
Mae'r cynllun wedi rhannu barn i ddweud y lleia', gyda llawer yn troi at rwydweithiau cymdeithasol i ddweud eu dweud.
Y mudiad diweddara' i ddatgan eu barn yw Dyfodol i'r Iaith sydd wedi galw ar Awdurdod y sianel i gyfarfod ar frys i "ganslo'r ymgyrch wallus hon".
Fe ddywedodd Dafydd Rhys, cyfarwyddwr cynnwys S4C, wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru wythnos diwethaf bod "dim bwriad o gwbl" i wneud is-deitlau Saesneg gorfodol yn rhywbeth parhaol.
Roedd Huw Onllwyn, y sylwebydd teledu a gyfrannodd i'r sgwrs ar Taro'r Post, o'r farn bod Cymdeithas yr Iaith a'r rhai sy'n gwrthwynebu'r ymgyrch yn gwneud "môr a mynydd" o'r mater, ac y dylai pobl "groesawu" yr is-deitlau.
'Dangos hyder'
Un arall sy'n gefnogol o'r ymgyrch yw Huw Davies o Gwm Tawe, sy'n un o wylwyr y sianel. Meddai wrth Cymru Fyw: "Mae'r ymgyrch is-deitlo Saesneg otomatig gan S4C yn un sy'n dangos hyder. 'Rwy'n ei weld yn gynllun hyrwyddo i ddenu pobl ddi-Gymraeg i wylio rhaglenni S4C ac felly i wneud hysbysebu ar y sianel yn fwy deniadol i fusnesau.
"Does dim digon o bobl yn siarad Cymraeg i gadw'r sianel yn fyw, felly byddai cael rhagor o wylwyr yn help mawr tuag at achub y sianel. 'Sgwn i faint o bobl ddi-Gymraeg sy'n byw yn Lloegr fydda'n hoffi gwylio, er enghraifft, 'Pobol Y Cwm' neu raglen arall? Petasai 1% o Saeson yn dechrau gwylio S4C bydde'r cynnydd tua 500,000 - swm sylweddol yn fy marn i."
Ychwanegodd Huw Davies: "'Rwy'n ei weld yn debyg i fusnesau yn rhoi 'sampl am ddim' i gwsmeriaid - byddai tebygolrwydd denu nifer fawr sydd ddim yn ymwybodol o'r cynnyrch neu ddim am fentro'i brynu. Enghraifft debyg arall (yn y synnwyr o fod mewn yn awtomatig) yw'r system newydd o roddi organau yng Nghymru.
"Rwy' wedi fy synnu bod nifer o Gymry sydd â S4C yn eu calonnau wedi penderfynu ymgyrchu yn erbyn y cynllun hwn. 'Falle'u bod yn ofni bydd S4C yn gosod is-deitlau Saesneg otomatig yn barhaol ac wedi penderfynu cadw'r ffigurau gwylio i lawr wythnos hon er mwyn i'r sianel beidio defnyddio ystadegau cynnydd gwylio i gyfiawnhau hyn.
"Felly, bobl y 'boicot' - beth am hysbysebu'n sianel i wylwyr di-Gymraeg yn lle cwyno a phrotestio?"
Ond er fod S4C yn targedu dysgwyr a'r rheiny sydd ddim yn 'Gymraeg iaith gyntaf', nid pawb sy'n cytuno ei fod yn ddull effeithiol o hybu'r Gymraeg ymysg y gynulleidfa darged yma.
Dyw John Archer erioed wedi byw yng Nghymru ond, er gwaethaf hynny, mae wedi dysgu Cymraeg ac mae wedi sefydlu grwpiau sy'n dysgu'r iaith yn Norfolk.
"Dwi'n gwylio S4C yn aml iawn - oedd hi'n dipyn bach o sioc i fi [i glywed am yr ymgyrch is-deitlau] achos pan 'da chi'n dysgu Cymraeg y peth sy'n drysu ni yw gweld Saesneg," meddai wrth Taro'r Post.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dysgu Cymraeg yn bobl sy'n clywed ac yn siarad yr iaith, nid drwy ddarllen - mae hynny'n ffaith."
Ychwanegodd: "Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau gweld yr is-deitlau yn y Gymraeg - dyna sy'n help i ni. Dwi'n siarad o brofiad."
Ochr 1
Yn ôl y cerddor Griff Lynch, sy'n cyflwyno rhaglen gerddoriaeth 'Ochr 1' ar S4C, mae'r ymgyrch i'w groesawu. "Ma' is-deitlau am w'sos yn bris bach i'w dalu am dynnu sylw at y ffaith fod modd i unrhyw un fwynhau cynnwys S4C.
"O safbwynt 'Ochr 1', ma' 'na lot o bobl di-Gymraeg yn gwylio, a mi fydda'n grêt cael mwy o bobl di-Gymraeg i sylwi bod modd mwynhau cerddoriaeth iaith Gymraeg ar lefel gelfyddydol - a dallt y lincs yr un pryd!
"Mae rhai o'n hoff ffilmia' i yn rhai gydag is-deitlau, a dwi wedi ymddiddori yn niwylliant y wlad a'r iaith honno ar ôl hynny."
Dyma farn rhai o wylwyr y sianel. Ond beth yw eich barn chi? Cysylltwch ar cymrufyw@bbc.co.uk, neu ar Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol neu ar ein tudalen Facebook, dolen allanol.
Meddai Michael Evans, sy'n ddysgwr ac yn wyliwr cyson o S4C, wrth Cymru Fyw y bysai'n hoffi gweld opsiwn i unigolion allu dewis rhwng is-deitlau Saesneg a Chymraeg i bob rhaglen, yn dibynnu ar eu anghenion:
"Weithiau, dwi'n gweld is-deitlau Saesneg yn ddefnyddiol os nad ydw i'n deall y Gymraeg ar ôl ail-chwarae rhan o raglen sawl tro.
"Yn bennaf, mae'n well gen i is-deitlau Cymraeg am eu bod nhw'n fy helpu i adnabod y geiriau dwi'n eu clywed. Weithiau, dwi'n gallu ymdopi heb is-deitlau, yn enwedig pan mae'r geirio yn glir, ddim yn rhy gyflym neu ddim yn rhy dafodieithol.
"Rwy'n credu y dylai S4C chwarae rhan fawr yn cynyddu'r defnydd a dealltwriaeth o Gymraeg."
Mae Chris Jones yn gofyn: "Wedi gweld pa mor dda ydi Saesneg pobl yr Iseldiroedd a Fflandrys yng Ngwlad Belg, rhaid gofyn y cwestiwn - a oes cysylltiad â'r ffaith fod llawer iawn (rhan fwyaf) o'r rhaglenni Americanaidd a Saesneg sy'n cael eu darlledu yno yn cynnwys is-deitlau Iseldireg â lefel uchel gallu'r boblogaeth yn y Saesneg?"