Is-deitlau Saesneg S4C: Anfon cwyn at Ofcom

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cwyn swyddogol i Ofcom yn dilyn penderfyniad S4C i ddangos rhai o'u rhaglenni gydag is-deitlau Saesneg yn otomatig.

Bydd y rheiny'n ymddangos yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch gan y sianel ac ni fydd hi'n bosib troi'r is-deitlau ffwrdd.

Mae Cymdeithas yn credu bod penderfyniad y sianel yn anghyfreithlon, yn torri Côd Ofcom ac yn "gosod cynsail peryglus" o ran eu darpariaeth yn y dyfodol.

Mae Deddf Darlledu 1990 yn gosod dyletswydd statudol ar S4C i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn bennaf yn ystod yr oriau brig.

Ond am bum diwrnod bydd rhan fwyaf o'u rhaglenni rhwng 18:30 a 22:00 ag is-deitlau Saesneg.

Mae'r gymdeithas o'r farn nad yw'r rheiny felly yn raglenni Cymraeg.

Cynsail 'peryglus'

"Gyda chynnydd sylweddol yn nifer y rhaglenni a ddarlledir gan y sianel lle mae gorfodaeth i'w gwylio yn Saesneg, credwn fod y sianel yn gweithredu'n groes i'r côd a'r ddeddfwriaeth," meddai'r llythyr gan Curon Wyn Davies, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith.

"Dywed S4C mai 'arbrawf' am bum niwrnod yn unig fydd hwn. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, credwn fod y penderfyniad yn golygu na fydd gwasanaeth teledu Cymraeg yr wythnos hon.

"Bydd gwasanaeth dwyieithog yn unig yn hytrach nag un Cymraeg. Yn ogystal, credwn, er bod S4C yn ceisio gwadu hyn, fod yr 'arbrawf' yn gosod cynsail peryglus o ran eu darpariaeth yn y dyfodol."

Gan mai nod S4C yw darparu gwasanaethau Cymraeg, maen nhw'n dweud y dylai "unrhyw wasanaeth Saesneg maent yn ei gynnig eisoes fod ar gael yn Gymraeg".

Ychwanegodd: "Mae S4C wedi methu â darparu is-deitlau Cymraeg digonol er gwaetha'r ffaith eu bod yn wasanaeth hanfodol i bobl â nam ar eu clyw, a'r ffaith eu bod llawer yn fwy defnyddiol nac is-deitlau Saesneg wrth ddysgu'r iaith."