Pwy yw Cymry Ifanc 2016?
- Cyhoeddwyd
Bydd 50 o bobl ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym mhrosiect Cymry Ifanc 2016 y BBC eleni ar gyfer etholiad Cynulliad Cymru ar 5 Mai.
Maen nhw'n cynrychioli trawstoriad o bobl 18 i 25 oed yng Nghymru heddiw, a byddan nhw'n cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau ar raglenni a gwasanaethau digidol y BBC yn ystod yr etholiad.
Daw'r bobl ifanc hyn o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau gwahanol, o Drelái yng Nghaerdydd i Fangor.
Byddan nhw'n ymddangos ar nifer o gynyrchiadau'r BBC, yn siarad am y materion sy'n effeithio arnyn nhw, neu'n ehangach ynglŷn â bywyd fel unigolion ifanc heddiw.
Ymunwch yn y sgwrs gyda @BBCGen2016, dolen allanol a darganfod mwy yn bbc.co.uk/generation2016.
Ali Al Hassan, 22, Caerdydd
Rydw i'n Fwslim ac yn fyfyriwr deintyddiaeth yn fy mlwyddyn olaf. Rwy'n gwneud pob math o bethau; rydw i'n caru fy chwaraeon, fy astudiaethau a'm cred. Mae gwrthwynebu cyni yn sail i fy ngwleidyddiaeth. Mae gen i sianel fechan YouTube ar gyfer chwarae gemau. Fy angerdd yw technoleg, boed mewn lleoliad deintyddol neu'n rhywle arall - rhowch declyn i mi ac rydw i wrth fy modd!
Michael Ali, 21, Caerdydd
Cefais fy magu yng Nghaerdydd a graddiais o Brifysgol Gorllewin Lloegr yn ystod haf 2015 gyda gradd mewn troseddeg. Rydw i'n gredwr cryf mewn ynni adnewyddadwy a cheisio brwydro yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd cyn gynted ag y gallwn. Credaf mai newid hinsawdd yw'r her bwysicaf y bydd ein cenhedlaeth ni yn ei hwynebu; bydd yn effeithio ar y byd cyfan, ac nid ein rhywogaeth ni yn unig, ond pob rhywogaeth arall sy'n byw ar y blaned.
Ar lefel fwy personol, mae gen i ddiddordeb yn ogystal mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Roeddwn i mewn gofal rhwng 8 a 18 oed, ac mae'r toriadau y mae awdurdodau lleol wedi gorfod eu goddef yn parhau i'm poeni gan eu bod yn effeithio ar fywydau cymaint o blant difreintiedig.
Alexandra Atkins, 20, Abertawe
Fi yw'r prif ofalwr ar gyfer fy rhieni, ac rydw i'n fyfyriwr llawn amser ar fy nhrydedd flwyddyn yn PCYDDS Caerfyrddin yn astudio gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae'r radd hon yn berthnasol i fy ngwaith oherwydd bod gennyf ddwy swydd ran-amser gyda phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, pobl ifanc gydag anableddau a gofalwyr sy'n oedolion ifanc. Mae'r swyddi yma wedi fy ngalluogi i gael dealltwriaeth ehangach o anghenion pobl ifanc a'r rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu.
Rwy'n is-gadeirydd yr Ymgyrch dros gael Cynulliad Plant a Phobl Ifanc i Gymru. Rwy'n angerddol ynghylch sicrhau llais i bobl ifanc a'u galluogi i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw. Mae gen i ddiddordeb brwd mewn darpariaeth ar gyfer pobl ifanc a materion iechyd meddwl.
Sophie Barnes, 19, Caerdydd
Rydw i yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar leoliad mewn Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd, ac'm bryd ar fod yn athrawes. Gwelaf y pwysau trwm ar athrawon, gyda'r cwricwlwm yn newid drwy Gymru. Mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer y proffesiwn hwn a'r genhedlaeth nesaf. Mae gan fy etholaeth un o'r cyfrannau uchaf o fyfyrwyr, ond rydw i ymysg y lleiafrif sy'n dewis pleidleisio mewn gwirionedd. Mae materion y mae myfyrwyr yn eu hwynebu yn y byd "go iawn" yn cael eu gwthio i'r ochr oherwydd bod y stereoteip yn awgrymu ein bod yn gwneud dim ond meddwi ac mae'n hawdd iawn anghofio ein bod ni yma i astudio ar gyfer gradd.
Yn ogystal, rydw i'n pryderu bod pensiynwyr sydd wedi cyfrannu cymaint tuag at yr economi yn gallu cael eu hanwybyddu ac mae angen mwy o fuddsoddiad mewn tai gwarchod, gyda warden yn ymweld yn ddyddiol a gweithgareddau adloniadol ac ysgogol. Yn olaf, gan bod fy rhieni yn cael eu cyflogi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'n achosi pryder i mi nad oes gan Gymru weinidog amddiffyn yn ei chynrychioli yng Nghynulliad Cymru.
Harriet Boughey, 19, Abertawe
Rydw i'n fyfyriwr actio gydag angerdd am y theatr a pherfformio, ac mae gen i awydd i'w wneud yn fwy hygyrch i bawb. Yn wleidyddol, rydw i'n gymharol niwtral; nid wyf o anghenraid yn cysylltu fy hun ag un blaid benodol. Mae gen i, wrth gwrs, farn ar amrywiol faterion, ond rydw i'n brwydro mewn gwirionedd i ymgysylltu ag un blaid yn unig.
Michael Broad, 20, Caerdydd
Rydw i'n astudio gwyddor gymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain. Rydw i'n angerddol ynglŷn â lleihau tlodi, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol ac eraill. Gan fy mod yn dod o gefndir dosbarth gweithiol, cefais fy magu gydag ymwybyddiaeth o effeithiau anghydraddoldeb o fewn ein cymdeithas. Mae fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn deillio o sylweddoli bod pobl fregus yn cael eu labelu ar gam fel "diog" neu'n "fachwyr budd-daliadau". Maen nhw'n dod yn fwch dihangol, sy'n arwain at ddiffyg buddsoddiad mewn cyfleoedd symudedd cymdeithasol. Mae angen cefnogi'r tlotaf a'r mwyaf bregus mewn cymdeithas. Yr unig ffordd i wneud hyn yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a gwneud safiad cryf yn erbyn cyni.
Mae pobl wedi eu dadrithio gan wleidyddiaeth prif ffrwd. Yn yr etholiad hwn, hoffwn weld ymgysylltiad cymunedol cryfach o'r gwaelod i fyny. Democratiaeth yw'r syniad y gall bawb gael dweud eu dweud er mwyn gwneud byd y maen nhw'n ei deimlo sy'n iawn. Eto, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn ymddangos yn rhy bell i ffwrdd mewn tŵr elît.
Rhodri Burnett, 18, Caerfyrddin
Cefais fy ngeni yn Brixton, ond rydw i wedi byw ger Caerfyrddin am ran fwyaf fy oes. Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio ar gyfer Safon Uwch, sef Saesneg, Hanes a Chymraeg a Bagloriaeth Cymru. Rydw i'n gobeithio mynd i'r brifysgol ym mis Medi. Fy mhrif ddiddordeb yw cerddoriaeth; rydw i'n chwarae'r piano ac wedi dysgu sut i chwarae'r gitâr fy hun.
Nid wyf yn gefnogwr brwd o unrhyw blaid wleidyddol benodol, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes gen i ddiddordeb yn nhirwedd wleidyddol heddiw. Rydw i'n cefnogi ac yn annog gwleidyddiaeth sy'n cynnwys gonestrwydd, tosturi a chynnydd. Fodd bynnag, rydw i'n parhau'n bragmatydd, ac rydw i'n sylweddoli ein bod angen cydweithrediad trawsbleidiol er mwyn datrys materion mawr y byd, a'r materion lleol sy'n ein hwynebu heddiw. Mae Thomas Paine, Benjamin Disraeli, Keir Hardie a John Lennon ymysg y dylanwadau sy'n llunio fy marn.
Ellie Connor, 20, Abertawe
Rydw i'n mwynhau siopa a bwyta allan a threulio amser gyda fy ffrindiau a'm teulu. Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio hanes modern a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhoi dealltwriaeth dda i mi o sut y gall polisïau effeithio ar bobl. Rydw i'n meddwl bod bywyd bob dydd a dod o gefndir ble mae pobl yn gweithio'n galed yn cael effaith fawr ar fy marn.
Gwion Rhys Dafydd, 21, Aberystwyth
Rydw i'n dod yn wreiddiol o Sir Benfro. Graddiais y llynedd o Brifysgol Aberystwyth ac rydw i'n awr yn gweithio yn adran werthiant a marchnata Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn deillio o'm hangerdd dros Gymru, yr amgylchedd a chymdeithas deg lle mae pobl yn cael eu trin yn gyfartal, beth bynnag yw eu cefndir neu'u cyfoeth. Credaf mewn llywodraeth sy'n atebol i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma gydag agwedd gynaliadwy a blaengar. Gobeithiaf weld Cymru fel cenedl sofran lawn, ac yn yr etholiad hwn bydd yn ddiddorol clywed am y weledigaeth sydd gan bob plaid ar gyfer dyfodol Cymru.
Sion Davies, 19, Llanelli
Rydw i'n dod o Lanelli yn Ne Cymru - tref sy'n enwog am ei threftadaeth ddiwydiannol falch sy'n cynnwys pyllau glo, diwydiannau tunplat a dur yn ogystal â bod yn dref tîm rygbi gorau Cymru, y Scarlets, wrth gwrs! Er, i fod yn deg, efallai bod fy marn ychydig yn unochrog.
Rydw i'n llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr yn ogystal â bod yn fyfyriwr llawn amser yn y coleg. Hoffaf ystyried fy hun yn Gymro balch, rydw i wedi dysgu fy hun i siarad Cymraeg yn ystod gwyliau'r haf cyn symud i'r coleg. Mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac edrychaf ymlaen at weld yr ymgyrchoedd yn datblygu ar gyfer enwebiadau'r Democratiaid a'r Gweriniaethwyr ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae gen i ddiddordeb mawr yn ogystal mewn gwleidyddiaeth Ewropeaidd ac rwy'n edrych ymlaen at y refferendwm ar aelodaeth yr UE.
Theo Davies-Lewis, 18, Llanelli
Rydw i'n dymuno gweld Cymru nad yw'n ddogmatig, yn gul nac yn cael ei dallu gan ei gorffennol. Drwy erthyglau mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a rhanbarthol, trefnu a chadeirio fy narllediad fy hun mewn arddull Question Time, yn ogystal ag ymddangos ar raglenni fel Sharp End (ITV), Heno (S4C) a BBC Radio Wales; rydw i wedi ceisio ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth. Yn ogystal, ar ôl cael addysg breifat, a lle ym Mhrifysgol Rhydychen; rydw i'n deall sut mae'r system addysg wladol yng Nghymru yn methu, a chyflwr trychinebus Prifysgol Cymru. Rydw i wedi gwirfoddoli gyda sefydliadau treftadaeth ac wedi gweld effeithiau cyni ar wasanaethau yn ogystal â sylwi ar dranc y cyfryngau Cymreig gyda rhwystredigaeth. Fel rhywun sy'n anelu i ymuno â'r byd darlledu, rydw i'n dymuno cwestiynu'r gwleidyddion, fel y gwneuthum o'r blaen, ar y materion hyn er mwyn penderfynu pa blaid sydd â'r weledigaeth orau ar gyfer ein gwlad.
Tomos Day, 19, Y Drenewydd
Rydw i'n astudio gwleidyddiaeth a hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ganolbwyntio ar wleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd a Datganoli yng Nghymru. Daeth fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru oherwydd fy niddordeb mewn sut y gall datganoli gyflawni'r hyn sydd orau ar gyfer Cymru. Yn y brifysgol, rydw i'n treulio llawer o amser yn beirniadu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â Chymru mewn amrediad eang o feysydd, ac mae materion gwledig yn un ohonyn nhw.
Poppy Evans, 19, Sir Gaerfyrddin
Ar hyn o bryd, rydw i'n fyfyriwr cyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dechreuais gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn gynta pan ddewisais astudio'r pwnc yn yr ysgol ac roeddwn i, ac rydw i'n parhau i fod, yn angerddol iawn ynglŷn â materion dyngarol ac roeddwn i eisiau dysgu mwy ynglŷn â dylanwad gwleidyddiaeth ar y materion hyn. Teimlaf yn angerddol iawn ynglŷn â phwysigrwydd addysg mewn cymdeithas a'r heriau y mae unigolion yn eu hwynebu o dan ein system bresennol.
Ar hyn o bryd, mae gen i nifer o swyddogaethau cynrychioli myfyrwyr ar gyfer amrywiol sefydliadau addysg fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r NUS. Pan nad wyf yn astudio, rydw i'n hoff o gynrychioli gan fy mod yn credu y dylid clywed pob llais. Ceir unigolion sy'n mynd drwy ein system addysg bob dydd sy'n wynebu nifer o heriau nad nad oes datrysiad iddynt, ac mae'r canlyniadau yn annerbyniol. Credaf y gallai ein system addysg wneud llawer mwy i ddarparu ar gyfer anghenion myfyrwyr, yn arbennig felly, ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd tlotach neu gefndiroedd anabl.
Nathan Friend, 18, Trefynwy
Wedi fy ngeni yn Lloegr, cefais fy magu yn Nhrefynwy, Cymru. Rydw i'n ystyried fy hun yn gyfan gwbl Brydeinig. Yna rydw i'n Gymro, Cymru am byth. Yna, rydw i'n ddinesydd y Gymanwlad. Yn olaf, rydw i'n Ewropeaidd. Rydw i'n caru Ewrop; ond nid wyf yn meddwl bod angen i ni gael ein rheoli gan fiwrocratiaid anhysbys, gwladoliaethol, anetholedig ym Mrwsel. Hyfforddais fel actor am ddeng mlynedd nes i mi benderfynu dilyn y gyfraith. Rydw i'n chwarae rygbi i ymlacio pan nad wyf yn y chweched dosbarth neu'n gweithio mewn bwyty Bangladeshi lleol. Nid datganiad ecsentrig yw hwn ar chwaraeon, drama a chyri; rydw i'n gweithio ac yn chware gyda phobl o bob cefndir. Rydw i wedi dysgu beth bynnag yw rhywun, y cwbl y maen nhw'n ei ddymuno yw cael llonydd. Y cwbl maen nhw'n ei ddymuno yw'r rhyddid "i". Rydw i'n rhyddfrydolwr; wedi ymroi i lywodraeth gyfyngedig, masnach rydd a rhyddid yr unigolyn. Peidiwch â sathru arnaf.
Susannah Gale, 22, Caerdydd
Rydw i'n aelod o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr. Yn fy mhrofiad i, y cyfryngau a'r celfyddydau yw'r math cryfaf o gyfathrebu cymdeithasol ac maen nhw'n cael dylanwad anferth ar uchelgeisiau a ffordd o fyw fy nghenhedlaeth i. Mae gen i ddiddordeb cryf mewn ailsefydlu a'r angen i gefnogi cyn-droseddwyr. Credaf yn ogystal na ddylid erlyn pobl am droseddau'n ymwneud a chyffuriau ac alcohol. Rydw i'n rhan o genhedlaeth ag enw am ddefnyddio diod a chyffuriau fel mecanwaith ymdopi mewn cymdeithas lle yn aml does ganddyn nhw ddim llais. Rydw i am daclo hyn a materion cymdeithasol eraill yn y gobaith o ddod â gostyngeiddrwydd ac empathi yn ôl i wleidyddiaeth.
Amy Gaskin, 18, Abertawe
Rydw i'n dod yn wreiddiol o dref fechan o'r enw Droitwich yn Swydd Gaerwrangon; fodd bynnag, ar hyn o bryd rydw i ar fy mlwyddyn gyntaf yn astudio am radd mewn Bioleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gwyddoniaeth, yr amgylchedd, iechyd ac addysg i gyd yn feysydd rydw i'n teimlo y gallaf eu cysylltu â'm cefndir gwyddonol. Yn ogystal â bod yn wyddonydd, penderfynais gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol. Rydw i o blaid yr UE, ac yn y brifysgol, rydw i'n aelod o'r ymgyrch trawsbleidiol Myfyrwyr dros Ewrop. Rydw i hefyd yn mwynhau ysgrifennu a siarad Ffrangeg. Yn fy amser hamdden, rydw i'n angerddol iawn ynglŷn â chanu'r piano, darllen a threulio llawer o amser gyda fy sbaniel.
Robert Green, 24, Caerdydd
Credaf fod angen i wleidyddion newid y ffordd y maen nhw'n ymgysylltu â phobl. Mae myfyrwyr wedi bod yn ei wneud yn iawn ers amser maith ac yn awr mae'n amser i wleidyddion fynd i'r siopau lleol a dechrau siarad efo pobl. Peidio ag ymyrryd mewn amser i'r teulu a gwneud ymdrech i ymgysylltu â phobl mewn amgylchedd gyfforddus iddyn nhw a phobl leol fel ei gilydd, mynd atyn nhw yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddarllen taflen. Yn ogystal, mae gwleidyddiaeth plaid yn ymddangos fel sgorio pwyntiau yn hytrach na beth sydd orau i'r wlad. Pan oeddwn i'n gadeirydd Cyngor Ieuenctid Caerdydd roeddwn i'n fwy ar yr asgell chwith ac roedd yr is-gadeirydd ar yr asgell dde. Fodd bynnag, roedd gan y ddau ohonom yr un nod a chyflawnwyd llawer, a gododd y cwestiwn - a yw gwleidyddion yn dymuno beth sydd orau i'r wlad neu i'w plaid?
Spencer Grennan, 21, Caerdydd
Cefais fy magu yn Nhrelái, Caerdydd ac rydw i'n dal i fyw yno. Rydw i'n perthyn i Grŵp Cymru Rhaglen Arweinyddiaeth UpRising, rhaglen hyfforddi chwe mis lle rydym yn cael mynediad tu ôl i'r llenni i lawer o sefydliadau llywodraethol, cyhoeddus a chorfforaethol. Drwy hyn rydw i wedi mynychu llawer o weithdai i gael hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a siarad cyhoeddus; mae hyn yn cynnwys derbyn cefnogaeth un i un gyda hyfforddwr a mentor. Yn ogystal, rydw i wedi mireinio fy sgiliau rhwydweithio er mwyn fy helpu i ddod o hyd i lawer o gyfleoedd diddorol.
Rydw i'n ymwneud â llawer o sefydliadau: rwy'n gwirfoddoli i Gymdeithas Seryddol Caerdydd, lle rydw i wedi gwisgo fel Darth Vader mewn digwyddiadau hyrwyddo yn yr amgueddfa, ac rydw i'n cymryd rhan mewn llawer o raglenni Ymddiriedolaeth y Tywysog. Rydw i'n bwriadu gwirfoddoli dramor gyda sefyliad SAFE yn gynnar ym mis Mai 2016. Mae'r cyfleoedd hyn wedi fy helpu i oresgyn rhwystrau diweithdra a dysgu sgiliau newydd i fynd ymlaen i yrfa neu hyfforddiant cyflogedig.
Aimee Griffiths, 20, Merthyr Tudful
Rydw i'n hyfforddi i fod yn athrawes gynradd ym Mhrifysgol De Cymru. Cefais fy ngeni a'm magu ym Merthyr Tudful. Fy nod yw gwella delwedd pobl ifanc yn y Cymoedd a dangos bod gennym i gyd farn am y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar ein bywydau. Yn ogystal, rydw i'n ceisio gwella llais pobl ifanc yn y Cymoedd a chynnwys pawb yn yr etholiad ym mis Mai. Mae fy marn yn amrywio ar bolisïau pob plaid, ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn polisïau addysg gan y bydd hyn yn effeithio ar fy mywyd yn y dyfodol.
Joe Hawkins, 22, Y Bari
Rydw i'n fyfyriwr prifysgol ym mlwyddyn olaf gradd mewn TGCh. Rydw i wedi bod yn wleidyddol weithredol am chwe blynedd, ers etholiad cyffredinol 2010. Ar wahân i wleidyddiaeth, rydw i'n hoffi comics, ffilmiau, dramâu heddlu, nofelau cyffrous am lofruddiaeth a phobi.
Jacob Heaton-Jones, 18, Dinas Powys
Myfyriwr chweched dosbarth ydw i a datblygodd fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn dilyn ei ddewis fel pwnc ar gyfer lefel A. Y tu allan i'r ysgol, rwy'n treulio llawer o amser ar gerddoriaeth, canu'r gitâr a gwylio ffilmiau. Yn ogystal, rydw i'n caru chwaraeon ac rydw i'n angerddol am bêl-droed. Mae gen i ddiddordeb mewn nifer o faterion, a'r ddau bwysicaf i mi yw'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc yn 2016 a chadwraeth amgylcheddol.
Nathan Ives, 22, Caerffili
Rydw i'n fyfyriwr rhan-amser ac rydw i'n gweithio'n llawn amser i gwmni amddiffyn fel prentis peiriannydd trydanol. Ar hyn o bryd, rydw i ar fy nhrydedd flwyddyn o brentisiaeth ac rydw i'n dymuno arbenigo mewn rheoli â rhesymeg raglenadwy. Byddwn yn disgrifio fy hun fel unigolyn egnïol, gofalus a chwilfrydig. Rydw i'n mwynhau nifer o weithgareddau, yn cynnwys, crefftau ymladd, crwydro, electroneg, a theithio yn arbennig. Mae fy marn am y system wleidyddol braidd yn sinigaidd a thawedog, ond rydw i'n obeithiol am y to iau a fydd un diwrnod yn ein cynrychioli yn wleidyddol.
Daniel Jones, 24, Port Talbot
Fel unigolyn ifanc sydd wedi bod yn ddigartref ac wedi byw mewn tlodi, ac yn agos i fyw mewn tlodi drwy'r amser, byddwn i'n dweud bod fy safbwyntiau yn adlewyrchu'r anghyfiawnderau cymdeithasol sy'n digwydd drwy'r wlad. Rydw i'n cael fy nylanwadu gan yr angerdd yn fy nghymuned leol. Mae Port Talbot yn le angerddol, ac mae'i phobl yn angerddol am lawer o bethau. Fodd bynnag, y bobl fwyaf angerddol ac amrywiol rydw i wedi'u cwrdd erioed yw'r bobl ifanc, iau na fi fy hun.
Rydw i'n cael fy nylanwadu yn ogystal gan y gweithwyr cymorth sy'n darparu gwasanaethau i bobl anghennus ym Mhort Talbot. Maen nhw'n brwydro gyda thoriadau'r llywodraeth, ac mae eu gallu i barhau i ddymuno gwneud eu swydd yn wirioneddol gymeradwy. Rydw i'n ymwybodol iawn o wleidyddiaeth, ac mae'n nod gen i i helpu cymaint o bobl ag y gallaf. Rydw i'n aelod o fwrdd elusen ac rydw i'n gwirfoddoli ar gyfer sawl sefydliad, yn cynnwys Shelter Cymru. Rydw i'n gobeithio bod yn awdur ryw ddiwrnod a defnyddio hynny i helpu mwy fyth o bobl.
Elfed Jones, 18, Gwynedd
Rydw i'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol, rydw i'n dod o fferm yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd lle mae fy nhad yn byw a Phenrhyndeudraeth lle mae fy mam yn byw. Ymysg fy niddordebau mae ffermio, gwleidyddiaeth, cerdded ar lawer o'r mynyddoedd wrth ymyl ein fferm, yr iaith Gymraeg, hanes Cymru a theithio. Deuthum i astudio i Aberystwyth oherwydd fy mod yn dymuno gwneud newidiadau yn y byd. Rydw i'n gefnogwr brwd o annibyniaeth i Gymru ac a ddatganoli pwerau ymhellach i Gynulliad Cymru.
Mared Rhys Jones, 18, Caernarfon
Rydw i'n fyfyrwraig ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor yn astudio'r Gyfraith. Gobeithiaf fynd ymlaen i wneud Tystysgrif Ymarfer y Gyfraith i ddod yn gyfreithwraig weithredol. Yr un peth rydw i'n ei fwynhau fwyaf yn y byd yw pêl-droed. Rydw i'n cefnogi Chelsea, Bangor (fy nhîm lleol) ac wrth gwrs, Cymru! Mae eleni yn flwyddyn fawr i Gymru gyda'r tîm pêl-droed yn mynd i Ffrainc ac etholiadau'r Cynulliad, ac felly rydw i'n edrych ymlaen at hyn. Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed.
Mirjam Kaerma, 21, Caerdydd
Rydw i'n fyfyriwr o Estonia yn astudio peirianneg cerdd ym Mhrifysgol De Cymru. Nid wyf yn credu rhyw lawer mewn gwleidyddiaeth. Credaf fod gwleidyddion y byd y dyddiau yma fel pypedau rhywun neu actorion sy'n gwneud addewidion gwag: maen nhw'n dweud yr hyn y maen nhw wedi cael eu talu i ddweud, maen nhw'n cefnogi'r hyn y maen nhw wedi cael eu talu i gefnogi. Mewn llawer o achosion, nid yw hyn o fudd i bobl, ond addewidion gwag er mwyn ennill arian a grym. Fel y dywedodd Churchill unwaith: "Democratiaeth yw'r math gwaethaf o lywodraeth, heblaw am y lleill i gyd." Dyma'r gwaethaf, ac eto nid oes gennym unrhyw beth gwell.
Arooj Khan, 20, Caerdydd
Rydw i'n astudio daearyddiaeth forol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae gen i ddiddordeb mewn polisi, deddfwriaeth a datblygiad cynaliadwy. Rydw i'n amlieithog mewn pedair iaith, yn cynnwys Cymraeg, sy'n bwysig i fy hunaniaeth Gymreig. Mae fy safbwyntiau yn cael eu dylanwadu gan fy mhrofiadau personol ynghyd â'm crefydd (Islam) a'm haddysg.
Luke Messaggiero, 23, Llanelli
Fy mhrif hobïau yw actio a chanu mewn grwpiau theatr yn Llanelli. Rydw i am fod yn ddi-flewyn-ar-dafod: ni fu gwleidyddiaeth erioed o ddiddordeb i mi. Credaf fod hyn oherwydd nad oedd unrhyw un yn fy ngrŵp oed yn ein cynrychioli ni a'n safbwyntiau. Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau diweddar yn Syria wedi fy ngwneud yn ymwybodol o beth allwn ni ei wneud i leisio ein barn. Sylweddolais fod y dref yr ydw i'n byw ynddi yn ddim ond cragen o'i chymharu gyda'r hyn y bu flynyddoedd maith yn ôl, gyda phrin unrhyw swyddi ar gael a'r unig ysbyty sydd gennym yn Llanelli yn awr yn cael ei galw yn "glinig damweiniau bychain" - nid yw'n cael ei ddefnyddio i'r eithaf.
Christina Mitchell, 22, Caerdydd
Rwy'n treulio llawer o'm hamser yn edrych ar ôl fy merch bedair oed. Rydw i'n ysgrifennu straeon, ac rydw i'n hoffi canu, dawnsio a darllen yn ogystal pan gaf gyfle. Rydw i'n dechrau dysgu a deall ychydig am wleidyddiaeth yn awr - doedden ni ddim yn siarad llawer am y pwnc yn y cartref, a doedden ni byth yn ei drafod yn yr ysgol.
Vincent Mullin, 19, Caerdydd
Rydw i'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio hanes a gwleidyddiaeth. Rydw i wedi byw yng Nghaerdydd ers dechrau mewn addysg, ond rydw i'n dod yn wreiddiol o Southampton. Mae fy safbwyntiau yn cael eu llunio yn bennaf gan fy mhrofiadau o economeg, gwleidyddiaeth a'r system addysg academaidd yr wyf wedi cymryd rhan ynddi. Er fy mod yn cytuno'n gryf gyda pholisïau Llywodraeth y DU ar yr economi, materion cartref a thramor, rwy'n anhapus â'r polisiau cymdeithasol, fel toriadau i gredydau treth a'r dreth ystafell wely. Rydw i'n credu bod yr ymgeisydd unigol yn llawer pwysicach na'r peiriant pleidiol.
Mark Norton, 19, Llanelli
Rydw i ar fy ail flwyddyn yn astudio gwleidyddiaeth ryngwladol a hanes rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy modiwlau yn bennaf yn cynnwys damcaniaethau gwleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol, rhyfel a diogelwch. Rydw i'n mwynhau darllen ffuglen. Byddwn yn disgrifio fy hun fel unigolydd ac Ewrosceptig. Daw fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn bennaf o sut mae syniadau ideolegol yn dylanwadu a chreu strwythurau gwleidyddol. Rydw i'n cytuno gydag egwyddorion democrataidd a chynrychiolaeth.
Charlotte Phillips, 20, Ystradgynlais
Rydw i'n briod ac yn byw mewn pentref bychan yn Ne Cymru. Rydw i'n gweithio fel cynorthwy-ydd gofal ac rydw i'n aelod o dîm ffordd o fyw yn fy nghartref nyrsio lleol. Hoffwn ymwneud â'r broses wleidyddol yn fwy a byddaf yn cymryd y cyfle hwn i ddysgu mwy ynglŷn â beth mae fy mhleidlais yn ei olygu.
Becky Ricketts, 21, Caerfyrddin
Rydw i'n dod o Loegr, ond rydw i'n astudio am radd mewn addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Sir Gaerfyrddin. Rydw i'n mwynhau darllen, chwaraeon, te ffrwythau a theithio. Mae gen i feddwl agored, rydw i'n frwdfrydig a bob amser yn fodlon ymgymryd â her. Mae cyflwr addysg, gofal iechyd a hawliau cyfartal i gyd yn bethau sydd o ddiddordeb mi ac yn effeithio arnaf yn uniongyrchol, ac maen nhw'n bethau y mae angen mynd I'r afael â nhw yn y dyfodol agos.
Mae fy safbwynt gwleidyddol yn cael ei ddylanwadu gan fy ymchwil a'm gwybodaeth fy hun yn ogystal â siarad â phobl â safbwyntiau tebyg a gwahanol i'm rhai i, oherwydd credaf ei fod yn iach i ryngweithio gyda phobl sy'n wahanol i chi, o safbwynt cenedl, hil, gwleidyddiaeth neu mewn ffyrdd eraill. Yn ogystal, credaf fod pobl ifanc yn haeddu mwy o lais mewn gwleidyddiaeth.
Kieran Roberts, 21, Pen-y-bont ar Ogwr
Rydw i'n weithiwr ieuenctid gwirfoddol ac yn diwtor TG. Bûm yn ddi-waith am oddeutu tair blynedd ond rydw i wedi bod yn gwirfoddoli ers dwy flynedd yn barod. Rydw i wedi dioddef o salwch meddwl ers i mi fod yn saith oed, ond bu ymdrechion i gael help yn fethiant. Yn ogystal, rydw i'n chwilio am waith ond rydw i wedi cael blynyddoedd o broblemau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau,a gwelais fy musnes newydd yn dymchwel a'm hiechyd yn dirywio. Nid wyf yn gallu dilyn fy ngyrfa oherwydd fy salwch a'm hanawsterau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar yr ochr bositif, mae fy ngwaith ieuenctid wedi rhoi llawer o sgiliau newydd i mi yn ogystal â chefnogaeth i ddysgu pethau newydd a cefnogaeth gyda fy natblygiad personol fy hun.
Lara Rowlands, 22, Pen-y-bont ar Ogwr
Rydw i'n byw efo fy merched tair oed sy'n efeilliaid. Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio am radd mewn astudiaethau crefyddol ym Mhrifysgol De Cymru. Gobeithiaf wneud cais i astudio ymhellach eleni, mewn pwnc sy'n gysylltiedig â hawliau dynol neu lywodraethiant byd-eang. Mae sawl agwedd o fywyd beunyddiol yn dylanwadu ar fy marn ar wleidyddiaeth, yr etholiadau sydd ar y gorwel a gwneud penderfyniadau yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys lles fy mhlant, ein hiechyd, addysg a bod yn fenyw ifanc.
Kate Seary, 19, Caerdydd
Mynychais Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ond rydw i'n awr ar fy mlwyddyn gyntaf yn astudio hanes a gwyddor wleidyddol ym Mhrifysgol Birmingham. Mae fy marn a'm syniadau am fyd gwleidyddiaeth a materion y byd wedi cael eu hysgogi yn bennaf gan fy astudiaeth o wleidyddiaeth yn ystod lefel A. Fi oedd cadeirydd fy nghyngor ysgol ac roeddwn yn rhan o Gyngor Ieuenctid Caerdydd.
Mae gen i angerdd hirsefydlog am athletau, sydd wedi arwain at glod rhyngwladol dros Gymru ar dros 20 achlysur. Rydw i'n cystadlu ar y trac 800 metr a 1500 metr yn ogystal â rhedeg trawsgwlad yn ystod tymor y gaeaf. Rydw i'n ymddiddori yn y berthynas bresennol rhwng athletau a'r byd gwleidyddol gyda'r sgandalau cymryd cyffuriau niferus sydd wedi difetha enw da'r gamp.
Daniel Shenton, 17, Wrecsam
Rydw i'n byw mewn tref sy'n ymddangos fel petai hi'n derbyn cyllideb lai bob blwyddyn. Mae hyn yn effeithio ar fy safbwyntiau, ac yn fy ngalluogi i weld pa wasanaethau sy'n bwysig mewn cymuned yn ogystal â'r rhai diangen. Mae gen i angerdd am ddrama a theatr ac rydw i'n rhan o griw llwyfan mewn theatr. Gan fod hyn yn ddylanwad aruthrol yn fy mywyd, mae'n fy nigalonni pan mae'n cael ei ystyried yn weithgaredd y gellir ei hepgor mewn cymdeithas sy'n wynebu heriau.
Carmen Smith, 19, Bangor
Rydw i'n fyfyriwr ar gwrs Bagloriaeth y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar, rydw i wedi cael fy ethol fel Dirprwy Lywydd NUS Cymru nesaf ar gyfer 2016/17. Rydw i'n dod o Gaersallog yn Wiltshire, ond cefais fy magu yn Iwerddon a Chymru fel ei gilydd. Mae'r etholiadau sydd ar ddod yn bwysig i mi oherwydd bydd y canlyniad yn effeithio nid yn unig ar ddyfodol Cymru fel cenedl, ond ar ddyfodol llawer o bobl yn fy nghenhedlaeth i. Byddaf yn edrych am bolisïau sy'n ymwneud â fy meysydd allweddol o ddiddordeb yn y cyfnod sy'n arwain at yr etholiad.
Ymysg fy niddordebau allweddol mae'r canlynol: addysg - gwarchod Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a chefnogaeth ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr o Gymru, trawsnewid y cwricwlwm i gynrychioli myfyrwyr yn well, a mwy o gefnogaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n fyfyrwyr er mwyn cael mynediad at addysg; hawliau merched - ymdrin â'r bwlch yn y tâl rhwng y rhywiau yng Nghymru a grymuso merched i ymgymryd â swyddi uwch; darpariaeth gofal iechyd - amseroedd aros byrrach i weld meddygon teulu, amseroedd ymateb cynt i ambiwlansiau a ffioedd cartrefi gofal is; materion rhyngwladol - cefnogaeth i geiswyr lloches a gwella cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Tom Spare, 24, Caerdydd
Cefais fy magu yn Ne-ddwyrain Lloegr ac ar hyn o bryd rydw i'n byw yng Nghaerdydd. Rydw i wedi bod yn gweithio yn y sector addysg uwch yng Nghymru am y flwyddyn a hanner diwethaf. Astudiais wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint am dair blynedd a bu hyn yn gyfraniad sylweddol i'm dealltwriaeth o faterion y DU a'r byd. Deuthum i mewn i addysg uwch ar amser o newid mawr yn y sector, sef un o'r grwpiau blwyddyn olaf i dalu £3,500 mewn ffioedd. Rydw i'n gefnogwr brwd o addysg brifysgol a'r manteision y mae'n ei darparu ar gyfer ein cymdeithas ehangach. Mae fy angerdd am wleidyddiaeth yn deillio o'i gallu i'm synnu, fy swyno a'm gwylltio ar yr un pryd.
Greg Thomas, 23, Llanfair ym Muallt
Rydw i'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i effaith y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar y Gymru wledig. Wedi cael fy ngeni a'm magu yn Llanfair ym Muallt, rydw i'n angerddol am y Gymru wledig, ac yn aml, rydw i'n teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r ffordd y mae'r ardal yn cael ei hanghofio gan Lywodraeth Cymru. Rydw i'n pryderu ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi trin ffermwyr yn ddiweddar, yr economi wledig a'r toriadau presennol i wasanaethau cyhoeddus. Yn etholiad 2016, rydw i'n dymuno gweld newid i Gymru er mwyn i'r wlad gael llywodraeth newydd gyda syniadau gwreiddiol, sy'n rhoi lle canolog i ardaloedd gwledig ar ei hagenda.
Will Thomas, 20, Y Bont-faen
Rydw i'n fyfyriwr sy'n astudio hanes a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Exeter. Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, ond mae gwleidyddiaeth Cymru bob amser wedi ymddangos yn anniddorol, oherwydd y diffyg uchelgais a syniadau. Er gwaethaf y ffaith fod y Bont-faen 25 munud yn unig o Fae Caerdydd, mae Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn llai cyfarwydd a llai perthnasol i'm bywyd na Llywodraeth Llundain. Fodd bynnag, os ydw i a gweddill fy nghenhedlaeth yn parhau i roi ychydig iawn o sylw i wleidyddiaeth Cymru, yna ni fyddwn yn gweld llawer o newid; byddwn yn caniatáu parhad y polisïau di glem a di uchelgais sydd wedi dod i ddiffinio Cynulliad Cymru.
Marc Tilley, 23, Caerdydd
Cefais fy ngeni yn Algeria, fy magu yn Ffrainc a chael fy mabwysiadu gan deulu Prydeinig cyn symud i'r DU yn 10 oed. Ar ôl blwyddyn ym Mryste, dychwelodd fy nheulu i Gaerdydd lle'r oedd fy rhieni wedi astudio o'r blaen, a lle rydw i'n byw ar hyn o bryd. Ar ôl cwblhau'r Fagloriaeth Ryngwladol, astudiais gyfraith hawliau dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda golwg ar weithio mewn gwleidyddiaeth Ewropeaidd rhyw ddiwrnod. Ers i mi ddechrau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth bleidiol, mae gen i ddiddordeb cynyddol mewn newyddiaduraeth wleidyddol ac rydw i'n awr yn ymgyrchu ar yr argyfwng ffoaduriaid a sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn ymwneud â gwleidyddiaeth - mae'r ddau fater yn agos iawn at fy nghalon.
Rydw i'n feiciwr brwdfrydig ac yn mwynhau rasio, ar ôl dod yn Bencampwr Iau Dringo Bryniau Cymru yn 2012. Yn ogystal, rydw i'n mwynhau rhedeg ac rydw i newydd gwblhau marathon eithafol ar draws y Sahara ym Moroco.
Fergus Turtle, 18, Llangynog
Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Surrey yn Guildford. Fy nghof cyntaf am wleidyddiaeth yw anhrefn cyfnod Gordon Brown a bûm yn dilyn etholiad 2010 yn agos er mai 13 oed oeddwn i ar y pryd. Roeddwn yn siomedig dros ben fod y system cyntaf i'r felin oherwydd gwelais ei fod yn lleihau dylanwad rhyddfrydol. Yn ogystal, cefais fy nhristáu yn fawr fod diwygiad pitw i'r system bleidleisio wedi cael ei wrthod mewn refferendwm.
Gellir crynhoi fy syniadaeth wleidyddol fel rhyddfrydiaeth gymdeithasol (gyda'r pwyslais ar ryddfrydiaeth). Credaf fod problemau go iawn yn aml yn cael eu hesgeuluso a phrin y mae ein gwleidyddiaeth yn edrych y tu allan i'r blwch am atebion, ond mae'n debyg mai mater o amser yn unig yw hi cyn i lywodraeth plaid unigol ddod i ben, a gwleidyddiaeth yn ymagor i syniadau mwy ffres a mwy defnyddiol.
Rebecca Waite, 19, Abertawe
Myfyrwraig troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd ydw i. Pan nad wyf yn astudio, rwy'n aml yn darllen neu yng nghwnmi fy ffrindiau. Rydw i'n teithio llawer ac yn mwynhau dysgu am hanes lleoedd newydd. Bu gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth o oed cynnar oherwydd fy mod yn gwylio'r newyddion, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut y mae polisïau yn newid. Rydw i'n gefnogwr cryf o hawliau Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ac eraill, oherwydd bod gennyf lawer o ffrindiau yn y categori hwn. Yn ogystal, rydw i'n cefnogi dod â ffoaduriaid i mewn o wledydd eraill ac rydw i'n cytuno gyda chreu llwybrau diogelach ar gyfer teithiau ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Rowan Walsh, 22, Casnewydd
Mae'r rhan fwyaf neu'r cyfan o'm cymhelliad i gymryd rhan yn Cymry Ifanc y BBC yn deillio o brofiadau personol, a'r rheiny'n anffodus yn brofiadau negyddol yn y system gofal iechyd meddwl; a phrofiadau gwael pobl sy'n bwysig i mi. Rydw i'n dymuno cymryd pob cyfle y gallaf i weithio tuag at gael gwared â stigma iechyd meddwl ac rydw i'n ymgyrchu am well gofal iechyd meddwl yng Nghymru a gweddill y DU. Rydw i'n parhau i ddioddef yn fawr iawn gyda fy mhroblemau fy hun, ond gobeithiaf y bydd gweithio gyda Chymry Ifanc y BBC i siarad am iechyd meddwl ar lwyfan mor fawr o fudd i'm hadferiad ac yn fodd o droi fy mhrofiadau negyddol yn newidiadau cadarnhaol ar gyfer pobl eraill tebyg i mi.
Brychan Williams, 18, Abertawe
Mae Cymru angen hwb. Am gyfnod rhy hir mae hi wedi cael ei rhwystro gan danfuddsoddiad hirdymor ac isadeiledd gwael. Mae hyn yn ein niweidio. Pe baem ni'n penderfynu gadael y DU a'r UE, byddai Cymru yn cael ei chategoreiddio fel gwlad yn y trydydd byd. Ac eto, mae Prydain yn un o'r economïau cryfaf yn y byd. Mae angen newid. Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio economeg, gwleidyddiaeth a hanes yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Rydym i gyd yn cael ein dylanwadu gan ein magwraeth ac nid oes unrhyw amheuaeth fod hyn wedi cael effaith ar fy safbwyntiau.
Rydw i wedi bod yn lwcus i weld ychydig o'r byd, diolch i Mam a Dad. Fodd bynnag, gall neb ddewis y teulu y maen nhw'n cael eu geni iddo. Un peth yr ydw i'n credu ynddo yn sylfaenol: dylai pawb gael cyfle cyfartal mewn bywyd beth bynnag yw eu magwraeth.
Andrew Wilmot, 21, Aberystwyth
Rydw i'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond rydw i'n dod yn wreiddiol o Swydd Buckingham, ac rydw i'n cefnogi fy hun drwy'r brifysgol fel ymgynghorydd marchnata/technoleg annibynnol, gan weithio gyda chwmnïau o bob rhan o'r byd. Dim ond ar ôl dod I'r brifysgol y deuthum yn arbennig o wleidyddol. Ers i mi ddod yma, rydw i wedi cychwyn cymdeithas Annibyniaeth Ieuenctid Aberystwyth ac rydw i wedi trefnu'r ymgyrch Pleidleisio i Adael yn Aberystwyth. Ar wahân i waith a gwleidyddiaeth, rydw i'n mwynhau canu'r piano-acordion a cheufadu.
Jonathan Windmill, 19, Caerdydd
Rydw i'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol ac economeg (ail flwyddyn) ac rydw i'n ddigon ffodus i fod yn astudio yn un o'r adrannau gwychaf yn y byd. Yn ogystal, rydw i'n gweithio yn Stadiwm Principality yn ystod digwyddiadau, fel Cwpan Rygbi'r Byd a'r Chwe Gwlad. Yn ogystal, rydw i'n gwneud gwobr Aur Dug Caeredin, ac ar hyn o bryd, rydw i'n bocsio, gwneud gwaith cadwraeth a chymorth cyntaf. Credaf yn gryf mewn cymuned, eglwys a gwladgarwch; y rhain fu'r prif gymhellion i mi gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Elizabeth Wonders, 25, Abertawe
Rydw i'n astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Cefais fy ysbrydoli i gychwyn gyrfa mewn bydwreigiaeth yn dilyn lleoliad profiad gwaith mewn uned famolaeth yn Ghana yn ystod fy ngradd gyntaf yn y gwyddorau meddygol a dyniaethau. Bûm yn dyst i ddiffyg adnoddau a dewisiadau ar gyfer merched yn ystod genedigaeth, o ganlyniad roeddwn yn benderfynol y dylai merched yma yn y DU gael profiad cadarnhaol o enedigaeth. Yn ystod fy hyfforddiant bydwreigiaeth, rydw i wedi cadeirio cymdeithas bydwreigiaeth myfyrwyr Prifysgol Abertawe, gan helpu i drefnu dyddiau astudio, codi arian a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr a bydwragedd cymwys fel ei gilydd yn ogystal â bod yn eiriolwr i fyfyrwyr.
Yn ogystal, rydw i'n cynrychioli o Gymru ar gyfer fforwm bydwragedd myfyrwyr Coleg Brenhinol y Bydwragedd, sy'n fy ngalluogi i roi ein lleisiau gerbron ar lefel genedlaethol. Nid wyf yn dilyn plaid wleidyddol benodol.
Lizzy Fauvel, 22, Porthcawl
Rydw i'n gefnogwr rygbi brwd ac yn ceisio mynd i bob un o gemau Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Mae gen i dipyn o obsesiwn hefyd gyda rhaglenni teledu am droseddu, Law and Order: SVU a How to get away with Murder.
Ar nos Wener arferol, bydda i'n gwylio Goggle Box, Alan Carr Chacti Man a rhaglen Graham Norton - dwi'n gwybod, mae fy mywyd yn wyllt.
Doedd gen i fyth ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth tan i mi adael y brifysgol, dechrau gweithio a dechrau sylweddoli faint mae'r penderfyniadau a wneir gan bobl dydw erioed wedi eu cyfarfod yn effeithio arna i a fy nheulu.
Dydw i ddim yn gwybod llawer am y system, ond rydw i'n gwybod y gall pobl ifanc, gydag addysg wleidyddol, sefyll gyda'i gilydd a newid pethau. Rydw i'n trefnu gweithdai hwylus a rhyngweithiol i bobl ifanc er mwyn dangos iddyn nhw y pwer gallem ei gael pe baen ni i gyd yn mynd allan a jyst cofrestru, ddim hyd yn oed pleidleisio!
Dydy fy nheulu ddim yn wleidyddol, na fy ffrindiau chwaith, felly'r unig bobl dwi'n siarad â nhw am wleidyddiaeth yw fy nilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd18 Mai 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2016