Newidiadau i amserlen Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Betsan Powys bod y newidiadau yn "gyfle i'n gwrandawyr fwynhau mwy o'r hyn maent yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi"

Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i'r amserlen, fydd yn dechrau ar 2 Ebrill.

Dywedodd llefarydd ar ran yr orsaf y bydd lleisiau cyfarwydd yr orsaf a'r ymroddiad i gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan ganolog o'r gwasanaeth.

Ymysg y newidiadau, bydd Aled Hughes yn cyflwyno rhaglen foreol newydd am 08:30 gyda Dylan Jones yn parhau gyda'r Post Cyntaf, sydd bellach yn 90 munud, rhwng 07:00 a 08:30.

Bydd John Hardy yn dechrau'r gwasanaeth gyda rhaglen fyw am 05:30.

Ymysg y rhaglenni newydd fydd un Rhys Mwyn, gyda rhaglen recordiau ar nos Lun.

Newidiadau'r penwythnos

Mae yna newidiadau ar y penwythnos hefyd gyda rhaglen Tudur Owen yn symud i 09:00 ar ddydd Sadwrn, ac yna Ifan Evans yn cyflwyno rhaglen newydd.

Bydd dwy raglen sy'n dathlu deng mlynedd yn symud i'r Sul sef Richard Rees a Cofio.

Bydd rhaglen Yr Oedfa yn dechrau yn gynt a hynny am 11:30.

Wrth drafod y datblygiadau, dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Mae'r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i'n gwrandawyr fwynhau mwy o'r hyn maent yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi ar Radio Cymru.

"Mae hi wedi bod yn nod gen i ers y dechrau i gael rhaglen fyw i agor drysau'r orsaf i'r gwrandawyr. Fe fydd rhaglen John yn rhoi cyfle i ni, mewn blwyddyn brysur eithriadol yn wleidyddol ac o ran chwaraeon, i ddod â'r Post Cyntaf ar yr awyr am 7 o'r gloch.

"Yna am 7am y bydd Dylan, Kate a Gwenllian Grigg yn darparu'r cynnwys newyddiadurol gorau. Gyda Dylan yn canolbwyntio ar y straeon mawr sydd i ddod eleni, Aled Hughes fydd yn gyrru'r awr a hanner o gerddoriaeth a sgyrsiau tan 10am. Mae'n edrych ymlaen i gael y cyfle i roi'i stamp ei hun ar ddarlledu'r bore.

"Ar nos Lun, mae'n wych gallu croesawu Rhys Mwyn i'n plith. Ry'n ni i gyd yn gwybod be gewn ni gan Rhys - cerddoriaeth ddiddorol, barn gref a digon i gnoi cil arno. Fydd ei raglenni yn bownd o greu sŵn!"