Amser am newid
- Cyhoeddwyd
Mae Betsan Powys, golygydd BBC Radio Cymru, wedi cyhoeddi y bydd amserlen yr orsaf yn newid yn y gwanwyn.
Yma, mae Betsan yn egluro rhai o'r newidiadau ac yn rhannu ei gweledigaeth am y dyfodol gyda Cymru Fyw:
Ymateb i'r ffigyrau gwrando
'Rhowch ddwy flynedd i'r amserlen cyn gneud DIM pellach' oedd cyngor y profiadol a'r prysur-dyfu'n-brofiadol ar ôl i amserlen Radio Cymru newid ddiwethaf. Roedd hynny, wrth gwrs, ddwy flynedd yn ôl.
Fe wrandawes i, rhoi cyfle i'r rhaglenni ffeindio'u traed, ffeindio'u cynulleidfa ac i'r gynulleidfa gael cyfle, fel mae'r wraig o'r gogledd yn ei ddweud ar drêl diweddara' rhaglen Tommo, i 'ddechra dod i arfer!'
Ond ar ôl dwy flynedd, mae 'na ffigyrau gwrando sy'n awgrymu bod angen mireinio. (Ai dyna yw 'tweak-io' yn Gymraeg?) Ac felly, dyma ni'n ymateb.
Mae 'na un neges reit glir yn y ffigyrau bore cynnar, a'r sylwadau wrth-fynd-heibio. Peidiwch glastwreiddio'r newyddion! Fy syniad i oedd trio pontio i fewn ac allan o'r Post Cyntaf ond dyw'r syniad hwnnw ddim wedi taro deuddeg fel yr oeddwn wedi ei obeithio.
Newidiadau'r gwanwyn
O fis Ebrill ymlaen felly, fe gewch chi awr a hanner di-dor, di-gerddoriaeth o straeon o Gymru, straeon am Gymru a straeon drwy lygaid y Cymry. Dyna mae'r Post Cyntaf a'r tîm yn ei wneud orau. Dyna bydd Dylan, Kate a Gwenllian yn ei wneud rhwng 7 a 8.30am yn y dyfodol.
Cyn 7, y newyddion ardderchog yw y bydd John Hardy yn cadw cwmni i wrandawyr Radio Cymru yn fyw, bob bore o 5.30am. John fydd yn deffro'r gwrandawyr, yn gweu cerddoriaeth gyda'r penawdau cynnar, y newyddion traffig a thywydd, yn bwrw golwg dros y papurau ac yn falch o glywed ambell neges gan y bore-godwyr, fydd yn eu tro'n falch iawn o'i gwmni, dwi'n siŵr.
Aled Hughes... heb y niws
Beth am ochr arall y bont? Honno sy'n dilyn y Post Cyntaf? Mae Dylan Jones wedi llwyddo i fagu cynulleidfa gref gyda'i raglen dros y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma.
Ond dewis clir Dylan yw aros yn rhan ganolog o'r tim newyddion ac mewn blwyddyn o ddigwyddiadau o bwys enfawr i ni'r Cymry, dyna'n dewis ni hefyd, gan roi'r awenau am 8.30am yn nwylo…
Aled Hughes - cyflwynydd sydd wedi cael croeso cynnes iawn gan y gwrandawyr pan mae e wedi sleifio i sedd Dylan unwaith neu ddwy dros y blynyddoedd diwetha'.
Mae ganddo lais unigryw, cariad aruthrol at radio fel cyfrwng ac mae'n byrlymu â syniadau. Mae'n symud i raglen newydd ac i dŷ newydd r'un pryd, gyda llaw. Rhowch groeso cynnes iddo i raglen y bore.
Gofalu am y perlau
Beth arall, felly?
Mentro, gyda gofal mawr, i symud dwy berl o raglen, dwy sydd wedi bod ar yr orsaf ers degawd a dwy ry'n ni am eu cadw ar Radio Cymru am ddegawd arall, gobeithio: Cofio a rhaglen Richard Rees.
O adael y ddwy ar fore Sadwrn am flynyddoedd i ddod, gneud hynny oherwydd ein bod ni'n ofn mentro fysen ni, nid am fod ffigyrau gwrando'r penwythnosau'n gyffredinol - erbyn hyn - yn dweud bod yn rhaid cadw draw.
Mentro felly, gyda gofal.
Ar fore Sadwrn o fis Ebrill, ar ôl chwiban olaf Ar y Marc, Tudur Owen a'r criw fydd yn codi'n gynt nag arfer i ddarlledu o 9 y bore tan 11, yna Ifan Evans yn ffarwelio â nos Fawrth ac yn dod â'i egni a'i 'Sgorgasms' i fore Sadwrn - ac fe fydd e'n sicr yn gwrando ar Camp Lawn ar ei ffordd adre.
Os yw dydd Sadwrn yn fyw a bywiog, fe fydd dydd Sul yn parhau'n feddylgar ac atgofus.
Ydw, dwi'n gwybod bod cynulleidfa ddydd Sul yn un deyrngar a chymharol fodlon ei byd ond fe ddyffeia i chi i ganfod gorsaf sy'n cynnig gwell casgliad o ddarlledwyr na Dewi Llwyd, Richard Rees, Beti George a John Hardy'n Cofio - a hynny mewn un bore.
Mae'r oedfa yno hefyd, wrth gwrs, Hywel Gwynfryn yn gwmni'n y pnawniau, a gyda'r nos yn gwbwl ddigyfnewid.
Adloniant gyda'r nos
Fe welwch chi ambell i newid gyda'r nos yn ystod yr wythnos. Cydnabod ydyn ni, mae'n debyg, bod gwerthfawrogiad rhaglenni cerddoriaeth gyda'r nos yn uchel, gyda'r uchaf o holl raglenni'r orsaf - ond bod nifer y bobol ifanc rhwng 15 - 24 oed sy'n gwrando, cynulleidfa darged wreiddiol C2 - yn isel.
Y gwir plaen yw bod mwyafrif mawr y gwrandawyr hynny'n pori am gynnwys ar lwyfannau tu hwnt i Radio Cymru gyda'r nos.
Dwi ddim yn dychmygu bod hynny'n syndod i chi, mewn gwirionedd. Oes, mae 'na garfan ifanc sydd YN troi aton ni ac iddyn nhw, fe fydd Huw Stephens estynedig, Lisa Gwilym, Georgia Ruth a Geth a Ger yn dal i ddarlledu, a Rhys Mwyn yn ymuno â'r criw i rannu'i gasgliad aruthrol o recordiau a chasetiau a straeon. Codwch y ffigyrau gwerthfawrogiad 'na eto fyth!
Brwydr y bandiau
Fe fydd Radio Cymru hefyd yn dal i ddarlledu'r Cwis Pop (un o'r cyfresi gorau, i fi, ar yr orsaf y llynedd) ac yn dysgu gwers bwysig gan stori Brwydr y Bandiau.
Ddeunaw mis yn ôl, roedd Brwydr y Bandiau - fel sibrydodd un o'r criw mewn un cyfarfod digalon - yn fwy o 'Scyffl y bandiau na brwydr'. Nifer fach oedd yn cystadlu. Nifer fach oedd yn gweld pwynt gneud hynny. Ond yn lle cau'r drws, fe agorodd criw C2 y drws i griw Maes B, ac fe agorodd criw Maes B lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol i'r bandiau buddugol ac yn sydyn, fe daniodd pethau.
Eleni, mae 'na 20 band wedi cofresru i gystadlu yn y rowndiau cyntaf - y nifer fwyaf ers blynyddoedd maith. 20 o bob cwr o Gymru! Fe fydd 4 gig lleol, o leia, yn cael eu cynnal i'w didoli nhw, 4 gig Cymraeg fydd - os byddan nhw rwbeth tebyg i'r llynedd - dan eu sang; 20 o fandiau fydd â set Gymraeg i'w pherfformio, ennill ai peidio.
Mae 'na ysgolion yn y De Ddwyrain, sydd wedi hen drefnu eu bysus i Glwb Ifor Bach, gyda llaw. Diolch iddyn nhw, ac os nad yw hynny'n codi calon, dwnim be' sy'.
Y wers? Agorwch y drws. Peidiwch fyth dod i'r casgliad na fedrwch chi ail-ystyried, a gofyn am help.
Mae'n bryd felly i ni fynd i'r afael â darn o waith mawr a chynhyrfus, gobeithio, fydd yn y pen draw yn mynd ag enw da 'C2' i'r byd digidol, i greu rhywbeth newydd sbon sy'n rhoi cynnwys Cymraeg ffantastic dan drwyn ei chynulleidfa, yn y llefydd iawn, bob awr o'r dydd.
Dechrau mae'r gwaith hwnnw. Prin mae'r sgyrsiau wedi dechrau ond y nod fydd agor y drysau tu hwnt i griw bach C2 ar Radio Cymru, a rhannu'n adnoddau a'n syniadau ac eraill sy'n awyddus i fagu diddordeb cynulleidfa ifanc. Pan fydd mwy i'w rannu, fe rannwn ni.
Teyrngarwch
Un nodyn i gloi. Ar bnawniau Sul mae'n arlwy gwerin ni wedi bod ers peth amser, yn y Sesiwn Fach gydag Idris Morris Jones.
Efallai nad pnawn Sul yw'r lle iawn i wneud yn fawr o'r don sylweddol o ddiddordeb sydd 'na yn y byd gwerin Cymraeg ar hyn o bryd. Ry'n ni am roi awr ychwanegol i Georgia Ruth felly, a mynd â'r arbenigedd, a'r sglein a'r cynnwys i stabl cerddoriaeth gyda'r nos.
Mae 'na ddiddordeb byw iawn yn y byd gwerin yma, felly unwaith eto, os oes 'na wersi i'w dysgu, ry'n ni'n glustiau i gyd ac wedi bod yn holi a gwrando'n barod.
Diolch o galon am bopeth Idris, a diolch i Guto Rhun am ei raglenni ar nos Lun a nos Wener ddaw i ben fis Ebrill. Mae Guto'n un y byddwn ni'n sicir yn gofyn am ei gyngor wrth i ni holi sut gallwn ni wneud yn fawr o enw, arwyddocad ac wmff 'C2' yn y dyfodol. Diolch i ti am bopeth Guto.
Yn 2017 fe fydd Radio Cymru'n troi'n 40 - dipyn o garreg filltir. Cyn hynny, mae 'na ambell i nod arall gan yr orsaf - dal i weithio'n galed ar gynrychioli lleisiau o bob cwr o Gymru ar y gwasanaeth, arloesi'n dechnegol a chwilio'n galed am ffyrdd o gynnig dewis i gynulleidfa sydd am glywed pob math o raglenni a cherddoriaeth yn Gymraeg, troi un o'r deg enwebiad - ie, deg - mae'r orsaf wedi'u cael yn yr Ŵyl Gyfryngau Geltaidd eleni yn wobr i'w dathlu, a gwneud ambell i gyhoeddiad fydd yn codi gwên ymhlith rhieni, gobeithio.
Y pwysicaf oll? Sicrhau bod llwyth o ffrindiau teyrngar gan Radio Cymru, a bod yr orsaf yn troi'n ddeugain yn iach ac yn teimlo mai nawr mae bywyd yn dechrau go iawn!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016