Pryder am gynllun i achub swyddi dur Tata ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Fe allai cwmni dur Tata droi cefn ar gynlluniau i achub y gwaith ym Mhort Talbot, yn ôl undeb Community.
Bydd aelodau'r bwrdd yn cwrdd yn India ar ddydd Mawrth 29 Mawrth i drafod cynlluniau allai arwain at golli 1,000 o swyddi ar draws y DU, gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot.
Ond bu aelodau undeb Community yn cwrdd â phrif weithredwr Tata yn Ewrop ddydd Llun wrth i bryderon gynyddu y gallai'r safle gau yn gyfan gwbl.
Ym mis Ionawr, dywedodd Tata bod yn rhaid ymateb i "amodau anodd iawn o fewn y farchnad".
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Community, Roy Rickhuss, roedd y posibilrwydd o golledion swyddi wedi bod yn "anodd i'w dderbyn" ond fod gweithwyr yn benderfynol o sicrhau llwyddiant unrhyw gynnig.
Ychwanegodd: "Mae adroddiadau sy'n awgrymu y gallai bwrdd Tata yn India wrthod y cynllun achub hwn yn bryder i bawb a bydd Community yn gwneud popeth posib i sicrhau fod y cwmni'n bwrw 'mlaen â hyn.
"Mae'r gweithwyr ym Mhort Talbot wedi cyflawni'r cyfan oedden nhw i fod i ac maen nhw'n haeddu cefnogaeth Tata."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2016