Marler i wynebu gwrandawiad annibynnol am sylw sarhaus
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Marler ymddiheuro i Lee yn ystod hanner amser
Bydd prop Lloegr, Joe Marler yn wynebu gwrandawiad annibynnol World Rugby am wneud sylw sarhaus am flaenwr Cymru, Samson Lee.
Roedd trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi penderfynu na fyddai'n cael ei gosbi am y sylwadau yn y gêm yn Twickenham ar 12 Mawrth.
Ond mae World Rugby, sy'n llywodraethu'r gêm ryngwladol, yn dweud bod ei sylwadau wedi mynd yn erbyn ei reolau ymddygiad.
Bydd yr achos yn cael ei glywed "cyn gynted ac sy'n bosib yn ymarferol".
Fe wnaeth Marler ymddiheuro i Lee yn ystod hanner amser ym muddugoliaeth Lloegr.
Roedd ymgyrchwyr o'r gymuned teithwyr yn feirniadol o Marler am wneud y sylw, ac fe wnaeth nifer o fewn y gamp alw am waharddiad yn ogystal.
Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ryddhau datganiad yn dweud eu bod "wedi synnu" na chafodd y mater ei drafod ymhellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2016