Cymeradwyo cynllun Land and Lakes

  • Cyhoeddwyd
Plans

Mae cynllun gwerth £120m i godi pentref hamdden a thai ger Caergybi wedi ei gymeradwyo'n derfynol gan Gyngor Môn.

Dyma'r cais cynllunio mwyaf sydd wedi cael sêl bendith gan gynghorwyr yr ynys erioed.

Wrth gyhoeddi'r newyddion mae'r cyngor hefyd yn dweud y byddan nhw'n derbyn tua £20 miliwn er mwyn 'lliniaru'r effeithiau posib'.

Bydd y pentref hamdden hefyd yn cynnwys cabanau arfaethedig fydd yn darparu cartref dros dro i filoedd o weithwyr pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu codi atomfa newydd ar yr ynys, sef Wylfa Newydd.

Manylion y cynllun

  • Pentref hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos gyda hyd at 500 o gabanau

  • Pentref hamdden yng Nghae Glas, Parc Cybi, gaiff ei ddefnyddio'n gyntaf fel safle llety dros dro i weithwyr adeiladu Wylfa Newydd. Byddai'r 315 o gabanau wedyn yn cael eu hailwampio i ddarparu llety gwyliau o ansawdd uchel, canolfan ymwelwyr newydd a gwarchodfa natur

  • Hyd at 320 o unedau yn Kingsland i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr Wylfa Newydd cyn iddynt gael eu haddasu'n ddatblygiad preswyl gyda 50% o'r datblygiad yn dai fforddiadwy.

Dywedodd Prif Weithredwr Ynys Môn, Gwynne Jones: "Dyma'r cais cynllunio mwyaf y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi'i ystyried erioed.

"Roedd hi felly'n hanfodol fod yr holl ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb yn cael eu harchwilio'n ofalus ac yn drylwyr."

Mae'r cytundeb cyfreithiol gyda Land and Lake yn cynnwys taliad o dros £20m i'r cyngor.

"Bydd y telerau yr ydym wedi cytuno arnynt gyda Land and Lakes yn dod â dros £20m i ni fedru lliniaru'r effeithiau posib a gaiff cais o'r maint hwn ar yr ardal. Yn bwysig iawn, bydd y pryderon amgylcheddol a godwyd hefyd yn derbyn sylw a byddant yn destun camau adfer priodol", meddai Mr Jones.

'Datblygiad allweddol'

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol, Dylan J Williams:

"Mae'r prosiect Land & Lakes yn ddatblygiad allweddol o fewn Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Môn o ystyried ei gysylltiadau posib â'r sector niwclear.

"Mae'r caniatâd cynllunio yn golygu y gall Land & Lakes fwrw ymlaen â thrafodaethau masnachol a allai greu llety i weithwyr yn ardal Caergybi a helpu i leihau'r risg i'r prosiect Wylfa Newydd."

Cafodd y cais Land and Lakes ei gymeradwyo gan gynghorwyr ym mis Tachwedd 2013.

Roedd ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu cais cynllunio wedi bod yn aflwyddiannus wrth ofyn i Lywodraeth Cymru alw'r cynllun i mewn.

Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn poeni am effaith y datblygiad ar yr iaith tra bod Ymgyrch Achub Penrhos yn poeni ar yr effaith ar ardal o harddwch naturiol eithriadol.