CPD Caernarfon 'ddim yn bodoli'n gyfreithiol'

  • Cyhoeddwyd
Clwb peldroed caernarfon

Dydy Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon ddim yn bodoli'n gyfreithiol, medd bwrdd apêl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae clwb Caernarfon wedi cyhoeddi'r llythyr gawson nhw gan y Gymdeithas wedi gwrandawiad ar 21 Ebrill, pan ddyfarnodd y bwrdd apêl nad oedd modd caniatau trwydded i alluogi'r clwb i chwarae yn Uwch-Gynghrair Cymru y tymor nesaf.

Mae'r clwb wedi cyhoeddi'r llythyr ar ei wefan, dolen allanol ac yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i geisio cywiro'r cam.

'Dim modd caniatáu'r drwydded'

Mae'r llythyr yn nodi fod 'CPD Tref Caernarfon Town FC' wedi ei ddiddymu ar 18 Awst 2015 am na chafodd cyfrifon eu cadw:

"Nododd y bwrdd apêl fod yr ymgeisydd wedi ymgeisio am gael ei ailsefydlu, ond ar ddyddiad y gwrandawiad, doedd hynny ddim wedi digwydd.

"Felly, ar sail y wybodaeth gyfredol sydd gennym, nid yw'r ymgeisydd am drwydded yn bodoli fel endid cyfreithiol, ac felly, does dim modd caniatáu trwydded."

Aeth ymlaen i nodi mai crynodeb o'r cyfrifon oedd wedi eu cyflwyno, ac nid y cyfrifon blynyddol llawn.

Cwrdd â'r cefnogwyr

Dywedodd y clwb: "Fel rydym eisoes wedi nodi, roedden ni'n gobeithio, ac yn disgwyl y byddai'r materion hyn wedi eu cwblhau i safon derbyniol ond mae'n ymddangos nad yw'r corff rheoli yn cytuno â ni."

Mae aelodau'r pwyllgor yn cwrdd â'r cefnogwyr ddydd Sadwrn i drafod y mater ymhellach.

Mae trwyddedau'n cael eu rhoi ar sail nifer o agweddau, gan gynnwys chwaraeon, hyfforddiant, isadeiledd a chyllid.