Enwebiad i Ghazalaw yn seremoni Gwobrau Gwerin Radio 2

  • Cyhoeddwyd
GhazalawFfynhonnell y llun, Guru Dhanoa

Mae'r gantores o Gymru, Gwyneth Glyn, wedi ei henwebu ar gyfer gwobr yn seremoni Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 nos Fercher.

Gyda'i grŵp Ghazalaw, mae'r gantores wedi ei henwebu ar gyfer gwobr - Trac Traddodiadol Gorau, am y gân 'Moliannwn'.

Mae Ghazalaw yn gydweithrediad rhwng Gwyneth Glyn a'r canwr Tauseef Akhtar o Mumbai, ac mae'n brosiect sy'n cael ei ddisgrifio fel dathliad o'r berthynas rhwng canu Ghazal Indiaidd a'r traddodiad gwerin Cymreig.

Bydd y seremoni'n dechrau am 19:00 yn y Royal Albert Hall yn Llundain.

'Sioc aruthrol'

Ffynhonnell y llun, Eric Van Nieuwland
Disgrifiad o’r llun,

Ghazalaw yn perfformio yng ngŵyl WOMEX13 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd

Yn siarad ym mis Chwefror, dywedodd Gwyneth Glyn bod yr enwebiad yn "sioc aruthrol i ni gyd".

"Doedd neb yn disgwyl ffasiwn beth ac mae hynny wastad yn beth braf, cael eich siomi o'r ochr orau.

"Mae rhywbeth yn llawen iawn am y gân, felly gobeithio y bydd hi'n codi calonnau pobl o leia'."

Hefyd wedi eu henwebu yn yr un categori mae:

  • Sam Lee - Lovely Molly

  • Stick In The Wheel - Seven Gypsies

  • The Furrow Collective - The Unquiet Grave