Leanne Wood yn curo Leighton Andrews i gipio'r Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cipio sedd y Rhondda mewn canlyniad annisgwyl ar draul Leighton Andrews o'r blaid Lafur.
Dyma stori fawr y noson hyd yma ac mae'n ergyd i Lafur sydd wedi cael noson lwyddiannus ar y cyfan.
Fe lwyddodd Ms Wood i ddisodli Mr Andrews, etholaeth mae wedi ei ddal ers 2003, gyda mwyafrif o 3,459 gan olygu gogwydd o 24% o Lafur i Blaid Cymru.
Dywedodd Ms Wood: "Mae gwawr newydd wedi torri dros y Rhondda. Mae hi'n rhy gynnar i ddweud p'unai os oes gwawr newydd wedi torri dros y wlad.
"Ond mae canlyniadau heno yn rhoi gobaith i mi am ddechrau newydd a Chymru newydd."
Fe ddiolchodd Mr Andrews i bobl y Rhondda am eu cefnogaeth, gan ddweud: "Roedd yn fuddugoliaeth bersonol iddi. Rwy'n parhau yn ymroddedig heddiw i ddatganoli ac i gryfhau democratiaeth Cymru."