Penodi Elin Jones yn Llywydd newydd y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Mae Elin Jones o Blaid Cymru wedi ei hethol yn Llywydd newydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Fe wnaeth AC Ceredigion drechu'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, hefyd o Blaid Cymru, o 34 pleidlais i 25, gydag un aelod yn ymatal ei bleidlais.
Mae Ann Jones o'r blaid Lafur wedi cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd o 30 pleidlais i 29 dros John Griffiths.
Mae Elin Jones wedi bod yn AC ers 1999, a bu'n gwasanaethu fel Gweinidog Materion Cefn Gwlad rhwng 2007-11.
Dywedodd bod cael ei hethol yn Llywydd newydd yn "fraint" ac yn "anrhydedd".
Fe gafodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam Price o'r un blaid, a'i eilio gan Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad.
Dai Lloyd enwebodd Ms Jones, gyda Jane Hutt o'r blaid Lafur yn eilio.

Y Fonesig Rosemary Butler yn llongyfarch Elin Jones
Rosemary Butler, y cyn-AC Llafur, oedd y Llywydd yn y Cynulliad diwethaf ond doedd hi ddim yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad y tro yma.
Wrth ddiolch i'w rhagflaenydd, dywedodd Elin Jones: "Mae'r Fonesig Rosemary Butler wedi bod yn llysgennad ardderchog ar gyfer y Cynulliad dros y pum mlynedd diwethaf.
"Mae hi wedi chwalu'r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith menywod drwy ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus; i bobl ifanc drwy eu rhoi yn gadarn wrth wraidd busnes y Cynulliad a chreu mwy o gyfleoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
"Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar ei llwyddiant hi wrth wneud y gwaith yr ydym ni, fel Aelodau'r Cynulliad, yn ei wneud yma yn y Senedd."
Etholwyd Ann Jones, Aelod Cynulliad Llafur dros Ddyffryn Clwyd, yn Ddirprwy Lywydd.
Fe gafodd ACau Llafur yr hawl i bleidlais rydd ar y mater.
Rhai o brif gyfrifoldebau'r Llywydd yw cadeirio cyfarfodydd llawn gyda'r Aelodau Cynulliad, cynrychioli'r Cynulliad fel sefydliad wrth drafod gyda chyrff eraill, a dylanwadu ar y ffordd y mae'n gweithredu o ddydd i ddydd.