Gobaith newydd i fferm gymunedol yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Moelyci ei brynu gan y gymuned leol dros 12 mlynedd yn ôl
Mae dyfodol fferm gymunedol yng Ngwynedd, sydd hefyd yn rhoi hyfforddiant i bobl ifanc, yn edrych yn fwy gobeithiol yn dilyn cyfnod anodd.
Ddwy flynedd yn ôl roedd fferm Moelyci ger Tregarth, Bangor, mewn trafferthion ariannol.
Bu'n rhaid i'r fferm ofyn am gymorth Ymddiriedolaeth Cwm Harry, o Bowys, er mwyn cynorthwyo gyda rheoli'r safle.
'Mwy positif'

Cari Rimes: Pethau yn edrych yn fwy positif
Ond nawr, yn ôl Cari Rimes, sy'n cynhyrchu caws ar y fferm, mae pethau wedi gwella ac maen nhw hyd yn oed yn edrych i gyflogi dau o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i weithio ar y fferm.
"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar ôl i Ymddiriedolaeth Cwm Harry ddod i mewn, mae pethau wedi dod yn lot fwy positif," meddai.
"Mae pethau wedi newid yn llwyr, mae cymaint o egni yma, rydym yn mynd o nerth i nerth."
Y fferm gafodd ei sefydlu 12 mlynedd yn ôl oedd un o'r ffermydd cyntaf ym Mhrydain i fod yn eiddo i'r gymuned leol.
Pobl leol
Bryd hynny, pan aeth y fferm ar werth, penderfynodd pobl leol ddod at ei gilydd i rwystro cynllun i ddatblygu'r safle yn dai gwyliau.
Dywedodd Carol Williams, rheolwraig y siop a'r caffi, eu bod yn rhoi hyfforddiant i bobl leol ar sut i dyfu cynnyrch eu hunain.
"Mae'r cynnyrch yma yn cael ei werthu i bobl leol ac mae'r cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn y caffi," meddai.
"Y peth mawr ydi hybu'r gymuned leol, fel os oes ganddyn nhw syniadau i dyfu pethau newydd, eu bod nhw'n gallu dod yma i ddysgu ac i arbrofi gyda phethau fydden nhw byth yn gallu gwneud fel arall."
Mae'r safle 350 acer yn cynnwys 250 acer sy'n ardal o ddiddordeb gwyddonol.

Carol Williams
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014