Cyflwyno cynigion i brynu safleoedd Tata yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Tata

Bydd grwpiau sy'n bwriadu gwneud cais i brynu safleoedd dur Tata yn y DU yn cyflwyno cynlluniau ddydd Llun.

Mae disgwyl i hyd at saith grŵp gyflwyno cynigion ffurfiol i Tata, wnaeth gyhoeddi ei fod yn gwerthu ei safleoedd yn y DU ym mis Mawrth.

Y gred yw y bydd cynigion yn cael eu cyflwyno i aelodau o fwrdd Tata yn Mumbai ddydd Mercher.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, hedfan i Mumbai ar gyfer y cyfarfod, ac mae wedi cynnig buddsoddi ar y cyd gyda phartner yn y sector breifat i achub safleoedd y DU.

Tata

Dywedodd Tata y byddai ond yn derbyn cynigion i brynu'r holl safleoedd yn y DU, sy'n cyflogi hyd at 15,000 o bobl.

Mae disgwyl i'r grwpiau sy'n gwneud cynigion gynnwys Liberty House, sy'n berchen safleoedd eraill yn y DU, a chonsortiwm sy'n cynnwys rheolwyr Tata o Bort Talbot - Excalibur.

Mae'r BBC yn deall bod y ddau grŵp yn fodlon cydweithio, ond y bydd y ddau yn cyflwyno cynigion ar wahân.