Jo Cox: Baneri ar hanner mast

  • Cyhoeddwyd
Flags at half mast outside the Welsh AssemblyFfynhonnell y llun, Tom Woodward
Disgrifiad o’r llun,

Baneri y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol

Mae baneri wedi bod yn chwifio ar hanner mast yn adeiladau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Jo Cox.

Bu farw'r aelod seneddol 41 oed ar ôl cael ei saethu a'i thrywanu mewn ymosodiad yn ei hetholaeth Batley a Spen, Sir Gorllewin Efrog ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Llangefni dydd Sadwrn cynhaliwyd seremoni er cof am yr Aelod Seneddol

Yn ogystal â rhoi teyrngedau i Mrs Cox mae nifer o wleidyddion wedi bod yn son am 'hinsawdd wleidyddol annerbyniol' sydd wedi datblygu.

'Gwneud aberthau'

Ar ôl cyfarfod o Gyngor y Gweinidogion yn Glasgow fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones roi ei ymateb i farwolaeth Mrs Cox.

"Mae gwleidyddion yn gwneud aberthau er mwyn gwneud eu gwaith, ond does neb yn disgwyl hyn.

"Ag i fam ifanc i gael ei chymryd i ffwrdd o'i theulu yn y modd yma, mae'n hollol drasig.

"Roedd hi'n rhywun oedd a'i gwreiddau'n ddwfn yn ei chymuned, rhywun oedd wedi ei hymrwymo i degwch, rhywun oedd yn mwynhau poblogrwydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, sydd ddim yn hawdd mewn gwleidyddiaeth."

Ychwanegodd Mr Jones: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r rhesymau am y llofruddiaeth yma ac mae'n hynod o bwysig, fel rhywun oedd yn arfer bod yn gyfreithiwr troseddol, nad yw ffeithiau'r ymchwiliad i lofruddiaeth yn cael eu dadlau ar Twitter, sydd yn anffodus wedi dod yn rhan o'n diwylliant modern."

Dywedodd Arglwydd Kinnock fod Mrs Cox wedi gweithio i'w wraig Glenys pan oedd hi'n aelod seneddol Ewropeaidd 20 mlynedd yn ôl gan ychwanegu "roedd hi y cyfuniad gorau o ddeallusrwydd mawr ac ymroddiad llwyr, mor ddeallus heb fod yn uchel-ael, cwmni da ond hefyd yn wleidydd oedd yn gwybod beth oedd hi mo'yn".

Dywedodd fod perthynas ei deulu gyda hi fel un gyda "nith gariadus" a bod ei wraig mewn galar llwyr.

"Di'r run o'r ddau ohonom ni yn gallu deall, mae ein meddwl gyda'i gŵr Brendan, a'i phlant ond mae hefyd yn farwolaeth i'r teulu, ei theulu hi, teulu'r Blaid Lafur a theulu ei hetholaeth."

Gwylnos

Nos Wener cafodd gwylnos ei chynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd, a fe wnaeth 150 o bobl fynychu gwylnos yn Abertawe.

Yn y cyfamser mae aelodau seneddol wedi cael eu galw nôl i gyfarfod arbennig o'r Tŷ Cyffredin ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 300 o bobl, gan gynnwys ASau ac ACau i'r Senedd yng Nghaerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau yn Abertawe i Jo Cox

Digwyddodd yr ymosodiad ar Mrs Cox tua 13:00 ddydd Iau.

Fe aed â hi i Ysbyty Cyffredinol Leeds lle bu farw'n ddiweddarach.

Cafodd dyn ei arestio yn Birstall, Sir Gorllewin Efrog, ar ôl y digwyddiad.

Yn hwyrach cyhuddwyd Thomas Mair, 52 oed, o lofuddio Mrs Cox.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Jo Cox

Mae aelodau seneddol ac aelodau cynulliad wedi derbyn cyngor diogelwch yn sgil yr ymosodiad.

Dywed e-bost a gafodd ei anfon gan Gomisiwn y Cynulliad: "Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch, a diogelwch eich staff."

Mae'r AS Arfon Hywel Williams wedi dweud ei fod yn ystyried cael larwm personol.

Ond mae hefyd yn dweud y dylai etholwyr deimlo eu bod nhw yn gallu dod i'w weld.

Mae Llafur Cymru wedi dweud eu bod wedi rhoi'r gorau i ymgyrchu dros y penwythnos ac felly hefyd Plaid Cymru - mae'r ddwy blaid yn cefnogi'r ymgyrch aros.

Dywedodd ymgyrch Leave Cymru na fydda nhw'n ymgyrchu tan ddydd Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jo Cox ei gadael yn gwaedu ar y llawr ar ôl yr ymosodiad