AS Llanelli, Nia Griffith yn gadael cabinet Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae Nia Griffith wedi ymddiswyddo o gabinet y blaid Lafur yn dilyn nifer o ymddiswyddiadau eraill yn y deuddydd diwethaf.
Roedd hi'n llefarydd Llafur ar Gymru ac wedi dweud y byddai yn cyfarfod â Mr Corbyn bore Llun gan ofyn iddo gamu o'r neilltu fel arweinydd y blaid.
Oni bai y byddai yn gwneud, dywedodd y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn rhan o gabinet Llafur.
Dywedodd wedi'r cyfarfod: "Mi wnes i ddatgan yn glir i Jeremy fy mod i wastad wedi edmygu ei ymroddiad i'r materion sydd o bwys iddo.
"Ond mae canlyniad y refferendwm wythnos diwethaf a'r tebygrwydd y bydd yna etholiad cyffredinol cynnar yn golygu bod y blaid nawr angen arweiniad newydd.
"Mae Jeremy wedi colli hyder y blaid, gan gynnwys nifer o'r aelodau oedd wedi ei gefnogi ar y dechrau, a dylai nawr wneud yr hyn sydd yn anrhydeddus ac ymddiswyddo."
Yn ystod y dydd mae Owen Smith, hefyd wedi rhoi'r gorau i fod yn llefarydd Llafur ar waith a phensiynau ac wedi awgrymu y gallai'r sefyllfa achosi rhaniadau o fewn y blaid.
Mae Wayne David AS Caerffili, oedd yn llefarydd Llafur ar yr Alban hefyd wedi ymddiswyddo.
Dywedodd Mr David bod Jeremy Corbyn yn ddyn "egwyddorol" ond "nid yn arweinydd".
Daw ymddiswyddiad Mr David wedi'r un penderfyniad gan AS y Rhondda, Chris Bryant.
Mae AS Aberafan, Stephen Kinnock, hefyd wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Preifat i lefarydd yr wrthblaid ar fusnes, Angela Eagle.
Dywedodd Mr Kinnock fod l Mr Corbyn yn ymgyrch y refferendwm Ewropeaidd wedi bod yn "ddifflach".
'Digon yw digon'
Wrth siarad efo BBC Cymru wedi'i ymddiswyddiad o gabinet Llafur bore Llun, dywedodd Mr David: "Dwi wedi meddwl yn hir am hyn a phenderfynu'r bore 'ma mai digon yw digon...yn fy marn i, er lles y wlad ac er lles y blaid Lafur, mae'n rhaid i Jeremy Corbyn ymddiswyddo fel arweinydd.
"Y gwir amdani yw fod Llafur wedi cynnal brwydr wan iawn adeg y refferendwm ac roedd diffyg brwdfrydedd yn sicr gan Jeremy.
"Rwy'n 'nabod Jeremy ers 30 mlynedd ac mae'n ddyn da ac egwyddorol, ond dyw e ddim yn arweinydd. Rwyf wedi dweud hynny o'r blaen ac wedi gwneud fy ngorau i weithio gyda fe a rhoi cyngor iddo...ond digon yw digon."
Ymlith yr Aelodau Seneddol Cymreig eraill sydd wedi rhoi'r gorau i fod yn y cabinet mae Susan Elan Jones a Gerald Jones.